Mae Craig Bellamy wedi cyhoeddi tîm hyfforddi newydd tîm pêl-droed dynion Cymru.

Yn ymuno â fe mae Andrew Crofts, James Rowberry, Piet Cremers a Ryland Morgans, a bydd rhagor o benodiadau’n cael eu cyhoeddi maes o law.

Yn eu plith fydd Martyn Margetson.

Mae’n golygu bod Alan Knill, Jack Lester, Tony Roberts a Nick Davies i gyd yn gadael eu swyddi ar ôl i Rob Page gael ei ddiswyddo.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi diolch i’r pedwar “am eu gwaith a’u hymroddiad”.

Bydd Chris Gunter yn symud i swydd newydd gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ond dydy’r union swydd ddim wedi cael ei chyhoeddi eto.

Bydd Craig Bellamy wrth y llyw am y tro cyntaf pan fydd Cymru’n herio Twrci yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fedi 6.

“Dw i’n hapus iawn â’r grŵp o staff rydyn ni wedi gallu dod â nhw i mewn,” meddai.

“Dw i wedi gweithio gyda nhw i gyd o’r blaen, naill ai fel hyfforddwr neu chwaraewr.

“Gyda’i gilydd, dw i’n credu bod y cydbwysedd a’r profiadau amrywiol rhyngon ni y gorau y bydden ni wedi gallu gofyn amdano.

“Mae’r gwaith i ffwrdd o’r gwersyll wedi bod yn wych hyd yma, ac alla i ddim aros i ni gyfarfod â’r chwaraewyr a chael dechrau arni gyda nhw.”

Mae Dr David Adams, Prif Swydd Pêl-droed Cymdeithas Bêl-droed Cymru, wedi canmol y penodiadau, sy’n “staff hyfforddi cryf a phrofiadol”, meddai.

Mae pob un o’r hyfforddwyr wedi cael eu hyfforddi yng Nghymru yn rhan o raglenni’r Gymdeithas Bêl-droed.


Andrew Crofts – Hyfforddwr Cynorthwyol

Enillodd Andrew Crofts 29 o gapiau dros Gymru o dan reolaeth John Toshack, Gary Speed a Chris Coleman.

Cwblhaodd ei gymwysterau hyfforddi drwy raglen addysg Cymdeithas Bêl-droed Cymru cyn hyfforddi academi Brighton ac yna tîm Cymru dan 23.

Cafodd ei benodi’n hyfforddwr tîm cyntaf Brighton yn 2022 pan gafodd Roberto De Zerbi ei benodi’n rheolwr, ac fe wnaethon nhw gyrraedd 16 olaf Cynghrair Europa y tymor diwethaf, a hynny wrth chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf erioed.

Mae bellach yn Brif Hyfforddwr Cynorthwyol Brighton hefyd.

James Rowberry – Hyfforddwr Cynorthwyol

James Rowberry

Dechreuodd James Rowberry hyfforddi’n 21 oed.

Daeth yn un o’r hyfforddwyr ieuengaf i gwblhau Trwydded Broffesiynol UEFA, ac yntau’n 29 oed ar y pryd.

Bu’n gweithio i Gaerdydd am wyth mlynedd, yn yr academi i ddechrau cyn dod yn hyfforddwr y tîm cyntaf.

Ar ôl cyfnod wrth y llyw yng Nghasnewydd, cafodd ei benodi’n Bennaeth Addysg Hyfforddi Elit y Gymdeithas Bêl-droed y llynedd, gan hyfforddi timau oedran Cymru hefyd.

Piet Cremers – Hyfforddwr Cynorthwyol

Dechreuodd Piet Cremers hyfforddi gydag Excelsior Rotterdam yn yr Iseldiroedd, lle cafodd ei eni, cyn symud i Loegr i weithio i Brentford ac yna Manchester City.

Bu’n Bennaeth Dadansoddi Perfformiad a Mewnwelediadau Manchester City, gan gydweithio’n agos â’r rheolwr Pep Guardiola.

Bu’n Hyfforddwr Cynorthwyol ochr yn ochr â Craig Bellamy yn Burnley, gan ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.

Ryland Morgans – Hyfforddwr Cynorthwyol

Mae Ryland Morgans wedi gweithio i nifer o glybiau yn Uwch Gynghrair Lloegr, gan gynnwys Lerpwl, Crystal Palace, Everton, Abertawe a Fulham.

Bu’n Bennaeth Perfformiad Cymdeithas Bêl-droed Cymru am wyth mlynedd, wrth i’r tîm cenedlaethol gyrraedd Ewro 2016.

Ers 2018, bu’n is-reolwr y Côte d’Ivoire ac yn hyfforddwr tîm cyntaf Tsieina a CSKA Moscow.

Mae hefyd yn Athro Gwyddorau Pêl-droed, ac mae e wedi cyhoeddi dros 115 o bapurau academaidd.