Mae Erol Bulut, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, wedi cadarnhau bod Aaron Ramsey yn holliach ar gyfer y gêm ddarbi fawr yn erbyn Abertawe ddydd Sul (Awst 25).

Fe wnaeth chwaraewr canol cae ymosodol Cymru droi ar ei ffêr yn ystod y gêm yn erbyn Burnley, ond dywed Bulut ei fod e wedi bod yn ymarfer yn llawn gyda’r garfan.

Mae’n dweud nad yw’r anaf yn ddifrifol, er ei bod yn “edrych yn ddrwg iawn” ar y pryd.

“Yn sicr, mae’n hwb,” meddai am y ffaith fod Aaron Ramsey ar gael i herio Abertawe.”

‘Mwy na gêm ddarbi’

Yn ôl Erol Bulut, fydd yn rheoli’r Adar Gleision mewn gêm ddarbi am y pumed tro, mae hon “yn fwy na gêm ddarbi”.

“Does dim angen i fi siarad ryw lawer am y gemau sydd wedi bod,” meddai.

“Darbi yw hon, mwy na darbi, i ni ac iddyn nhw.

“I fy chwaraewyr i, mae angen iddyn nhw fod yn barod ar gyfer y gêm ddydd Sul.

“Y tymor diwethaf, ges i ddigon o sgyrsiau gyda chefnogwyr ar y stryd, a phan es i allan i fwytai.

“Dw i’n gwybod beth mae hyn yn ei olygu i’r cefnogwyr, i’r clwb ac i ni.

“Nid dim ond gêm ddarbi yw hon.

“Mae’n ddarbi fawr.

“Rhaid i chi ei hennill hi.”