Mae tîm criced Swydd Derby wedi curo Morgannwg o ddeg wiced yn ail adran y Bencampwriaeth yn Derby.

Dim ond 27 oedd ei angen ar y tîm cartref i ennill yn eu hail fatiad, ac fe gyrhaeddon nhw’r nod yn hawdd heb golli wiced.

Dyma fuddugoliaeth gynta’r Saeson ar eu tomen eu hunain mewn gêm pedwar diwrnod ers pum mlynedd, a’u buddugoliaeth gyntaf yn y gystadleuaeth ers 2022.

Cafodd Morgannwg eu bowlio allan am 287 yn eu hail fatiad.

Brwydrodd Morgannwg yn ddewr wrth i Mason Crane a Dan Douthwaite adeiladu partneriaeth o 47 oddi ar 136 o belenni am yr wythfed wiced, cyn i’r Cymro David Lloyd, capten Swydd Derby, dorri’r bartneriaeth wrth fowlio sbin a tharo coes Crane o flaen y wiced.

Tarodd Luis Reece goes Fraser Sheat o flaen y wiced cyn i Dan Douthwaite gael ei fowlio.

Roedd angen 25 o rediadau ar Forgannwg i orfodi Swydd Derby i fatio eto, ac fe lwyddon nhw i wneud hynny o drwch blewyn, ond roedd y nod yn hawdd i’r Saeson yn y pen draw.

Sgoriodd Swydd Derby 429 yn eu batiad cyntaf, wrth i Anuj Dal daro 94, Harry Came 84, Wayne Madsen 77, a David Lloyd yn cyfrannu gyda 44.

Bydd Morgannwg wedi’u siomi gan safon y batio yn y gêm hon, gyda dim ond Timm van der Gugten (46 heb fod allan) a Dan Douthwaite (36) yn cyfrannu yn y batiad cyntaf, wrth i’r sir Gymreig gael eu bowlio allan am 186.

Kiran Carlson (56) a Colin Ingram (53) oedd yr unig gyfraniadau gwerthfawr yn yr ail fatiad wrth iddyn nhw frwydro i achub yr ornest.

Gyda gemau eraill yn dal ar y gweill, roedd Morgannwg yn bumed pan ddaeth yr ornest hon i ben.