Yr wythnos hon, roeddwn i draw yng Nghae Baker, Penrhyn-coch yn gwylio’r ail dîm yn erbyn Clwb Pêl-droed Llanilar mewn gêm yng nghynghrair Canolbarth Cymru (De).
Nawr, ar y dechrau fel hyn, mae’n rhaid i mi gyfaddef fy ymrwymiad at y clwb o gantref Ilar ger glannau’r Afon Ystwyth ers degawdau. Mae fy meibion wedi chwarae i glwb y pentref ac mae’n fraint cael bod ar bwyllgor yr Ŵyl Bêl-droed flynyddol sy’n digwydd er cof am Gary Pugh – cyn-chwaraewr a hyfforddwr fu’n ddylanwad anferthol ar gymaint o blant a phobol ifanc yr ardal ac a gollwyd mor greulon o ifanc.
Fel mae rhaglen yr Ŵyl yn ei ddatgan:
“Mae pawb yn gwybod gymaint yr oedd Gary wedi ei wneud i bêl-droed ieuenctid yn Llanilar a thu hwnt gan gyfrannu llawer i wella safon pêl-droed y chwaraewyr dan ei ofal. Byddai’n gwneud yr holl waith heb ffws na ffwdan gan roi’r chwaraewyr yn gyntaf bob amser. Byddai pawb yn cael cyfle i chwarae a byddai pawb yn mwynhau eu pêl-droed.“
Roedd dau dîm cryf ar y cae, gan gynnwys y bytholwyrdd Sion James, gynt o Glwb Pêl-droed Tref Aberystwyth, chwaraewr y mae wedi bod yn fraint i mi ei wylio mewn ugeiniau o gemau dros y blynyddoedd – un o fy hoff chwaraewyr erioed i wisgo lliwiau Gwyrdd a Du clwb y dref.
Cafwyd dechrau digon tanllyd i’r gêm wrth i Guto Roberts (2 funud) sgorio gôl gynnar i’r ymwelwyr a hwythau’n gwthio am yr ail – ond bu raid aros dros hanner awr cyn i Guto Roberts (33 munud) sgorio ei ail o’r noson. Roedd cyfle euraidd cyn hynny i gael gôl ond roedd y bêl wedi taro’r postyn a’r bar – a rhywsut wedi cadw allan o’r gôl!
Mae rhai’n grediniol bod gôl gynnar yn bet peryglus ac eraill yn dadlau y gall bod dwy gôl ar y blaen greu ansicrwydd – ac ychydig funudau’n ddiweddarach rhoddodd y blaenwr ifanc Harley Laton (35 munud) lygedyn o obaith i Benrhyn trwy sicrhau bod y tîm cartref yn gadael y cae ar yr hanner yn llawn gobaith.
Sgoriodd Sion Evans (55 munud) cyn i Guto Roberts (64 munud) gwblhau ei hatric a sicrhau bod cefnogwyr yr ymwelwyr yn gallu ymlacio ychydig, a sicrhau bod pob chwaraewr yn y garfan yn cael amser ar y cae. Gyda’r holl eilyddion ar y cae, aeth Llanilar ymhellach ar y blaen gyda gôl gan Osian Williams (77 munud), cyn i’r “Ceiliogod” gael gôl gysur wedi ei sgorio gan Carter Norris (83 munud) ryw ddeg munud cyn y chwiban olaf. Mae’n werth nodi bod pob chwaraewr o’r tîm cartref hefyd wedi cael munudau ar y cae, a hynny’n glod i hyfforddwyr y ddau glwb.
Bydd Gŵyl Bêl-droed Gary Pugh, Clwb Pêl-droed Llanilar yn digwydd ar fore Sul, Medi 8 ar gaeau Blaendolau. Bydd nifer fawr ohonoch yn cofio Gary fel ffrind, ond hefyd fel un roddodd gymaint i gymuned bêl-droed Ceredigion. Dewch draw am wledd o bêl-droed a chyfeillgarwch – gyda’r holl elw’n mynd at achosion da.