Mae’n ymddangos bod breuddwyd y Cymro Louis Rees-Zammit o gyrraedd yr NFL, y brif gystadleuaeth bêl-droed Americanaidd, ar ben am y tro.

Does dim disgwyl i’r cyn-chwaraewr rygbi gael ei gynnwys yng ngharfan 53 chwaraewr y Kansas City Chiefs, fydd yn cael ei chyhoeddi’n ddiweddarach heddiw (dydd Mawrth, Awst 27).

Ac mae e wedi cael ergyd bellach i’w obeithion yn sgil y newyddion bod y Chiefs wedi denu JuJu Smith-Schuster ac wedi rhoi’r crys rhif naw iddo fe, sef y crys y bu Rees-Zammit yn ei wisgo mewn gemau paratoadol cyn dechrau’r tymor newydd.

Roedd Smith-Schuster wedi bod yn gwisgo’r crys hwnnw i’r Chiefs cyn ymuno â’r New England Patriots.

Mae Rees-Zammit bellach wedi’i weld yn gwisgo rhif 49 ar ei grys, ond mae hefyd wedi’i weld yn cerdded i ffwrdd o ymarfer ar ôl anafu ei gefn.

Mae’r Cymro wedi cael ei ganmol am ei berfformiadau hyd yn hyn, yn enwedig gan y prif hyfforddwr Andy Reid, sy’n dweud ei fod e’n “dipyn o athletwr”.

Ond dydy hi ddim yn ymddangos bellach y bydd hynny’n ddigon iddo fe hawlio’i le yn y garfan derfynol ar gyfer tymor yr NFL.

Cytundeb

Y gred ar hyn o bryd yw y bydd Louis Rees-Zammit yn parhau i ymarfer gyda’r Chiefs yn y gobaith o sicrhau ei le yn y garfan yn y dyfodol.

Mae ganddo fe gytundeb tair blynedd, ac fe fydd e’n derbyn cyflog o £634,000 pe bai’n cael ei ddewis yn y garfan derfynol.

£199,500 fydd ei gyflog pe bai’n aros yn y garfan hyfforddi am y tro.

Dros y tair blynedd, pe bai’n ennill ei le yn y garfan ac yn cadw’r lle hwnnw am y cytundeb cyfan, fe allai ennill hyd at £2.7m.