Ar drothwy’r Gemau Paralympaidd sy’n dechrau yn Paris fory (dydd Mercher, Awst 28), mae Olivia Breen wedi’i henwi’n gyd-gapten tîm Prydain.

Bydd yr athletwraig o Gymru’n rhannu’r cyfrifoldeb gyda Dan Pembroke.

Caiff y capteniaid eu dewis gan eu cyd-athletwyr ar ffurf pleidlais.

Dyma bedwerydd Gemau Paralympaidd yr athletwraig sy’n rhedeg ac yn gwneud y naid hir.

Mae hi wedi cystadlu ym mhob Gemau ers Llundain yn 2012, lle enillodd hi ei medal gyntaf.

Enillodd hi’r fedal efydd yn y naid hir yn Tokyo yn 2020.

‘Anrhydedd enfawr’

Dywed Olivia Breen ei bod hi’n “anrhydedd enfawr” cael ei henwi’n gapten Prydain.

“Ro’n i fatha, ‘Waw, mae hyn yn anhygoel’,” meddai.

“Dw i’n falch iawn o fod yn un o gapteniaid y tîm ochr yn ochr â Dan, ac allwn ni ddim aros i weld sut mae’r tîm yn perfformio.

“Dw i wedi cyffroi’n fawr o gael bod yn gapten.

“Roeddwn i eisiau cyfleu [yn ei haraith] y gall y tîm ddod ata’ i ag unrhyw gwestiynau.

“Dyma fy mhedwerydd Gemau Paralympaidd, felly mae gen i lawer o brofiad.

“Alla i ddim aros i fynd allan i gystadlu nawr.

“Dw i mewn lle da iawn yn feddyliol ac yn gorfforol, felly dw i wedi cyffroi’n fawr.”