Mae Martyn Margetson wedi’i benodi’n hyfforddwr gôl-geidwaid tîm pêl-droed Cymru.

Mae’n dychwelyd i Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn dilyn cyfnod yn hyfforddi gôl-geidwaid Lloegr yn rhan o dîm hyfforddi’r cyn-reolwr Gareth Southgate.

Bu’n hyfforddi Cymru rhwng 2011 a 2016, pan oedd Gary Speed a Chris Coleman wrth y llyw, gan gynnwys Ewro 2016.

Mae cyn-golwr Cymru hefyd wedi gweithio gyda West Ham, Caerdydd, Crystal Palace ac Everton, ac mae hefyd yn hyfforddwr gôl-geidwaid Abertawe ar hyn o bryd yn rhan o dîm hyfforddi Luke Williams.

Bydd yn ymuno â Andrew Crofts, James Rowberry, Piet Cremers a Ryland Morgans, sydd i gyd wedi gweithio â Craig Bellamy yn y gorffennol.

‘Profiad’

“Roedd bod yn hyfforddwr gôl-geidwaid Cymru ar gyfer y garfan oedd wedi cyrraedd rownd gyn-derfynol Ewro 2016 yn un o brofiadau gorau fy ngyrfa, ac alla i ddim aros i gael dechrau gyda’r tîm eto,” meddai Martyn Margetson.

“Dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda’r grŵp presennol o gôl-geidwaid a’r garfan ehangach, ar ôl gweithio gyda nifer o’r chwaraewyr gynt, a dw i’n gobeithio y bydd fy mhrofiad yn gallu dod â llwyddiant i’r tîm.”

Dywed Craig Bellamy fod gan Martyn Margetson brofiad o hyfforddi ar y llwyfan rhyngwladol – rhywbeth oedd ar goll wrth edrych ar weddill y tîm hyfforddi.

“Nid yn unig profiad o bêl-droed ryngwladol sydd ganddo fe, ond o gyrraedd rowndiau terfynol twrnament,” meddai.

“Bydd y profiad a’r wybodaeth o fudd enfawr, ac roedd yn benderfyniad amlwg i’w dynnu fe i mewn.”

Bydd Craig Bellamy wrth y llyw am y tro cyntaf pan fydd Cymru’n herio Twrci yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fedi 6 (7.45yh).

Penodi Chris Gunter i’r tîm dan 19

Chris Gunter

Daeth cadarnhad erbyn hyn hefyd mai Chris Gunter yw rheolwr newydd tîm dan 19 Cymru.

Bu’n gweithio tuag at ennill Trwydded Broffesiynol gan UEFA ar ôl ennill 109 o gapiau dros ei wlad ar y cae cyn ymddeol yn 2023.

Bu’n hyfforddwr datblygu gyda’r Gymdeithas Bêl-droed am gyfnod, gan helpu’r tîm cenedlaethol i gyrraedd rownd derfynol gemau ail gyfle Ewro 2024 wrth i nifer o’r to iau gamu i’r brif garfan am y tro cyntaf.

Bydd e’n bennaf gyfrifol am oruchwylio tactegau’r tîm dan 19 ac yn parhau i gydweithio i ganfod doniau’r dyfodol.

Bydd ei dîm yn herio Ffrainc, yr Alban a Liechtenstein wrth geisio cyrraedd yr Ewros.

Dywed ei fod yn edrych ymlaen at y swydd a’r “cyfle da i ddysgu a gwella” fel hyfforddwr ac i “gefnogi a rhannu profiad” gyda’r chwaraewyr ifainc.

Symud gêm Cymru

Yn y cyfamser, mae gêm Cymru yn erbyn Montenegro ar Fedi 9 wedi cael ei symud i Stadiwm Dinas Nikšić yn sgil pryderon am gyflwr y cae yn y Gradski Stadion yn Podgorica.

Mewn datganiad, mae Cymdeithas Bêl-droed wedi cydnabod yr “anghyfleustra” i gefnogwyr Cymru fydd yn teithio i’r gêm.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n cynnal trafodaethau â UEFA a Chymdeithas Bêl-droed Montenegro er mwyn lleihau’r anghyfleustra hwnnw, ac y byddan nhw’n cyhoeddi rhagor o wybodaeth maes o law.