Bydd 22 o athletwyr yn cystadlu yng Ngemau Paralympaidd Paris, sy’n dechrau heddiw (dydd Mercher, Awst 28).

Enillodd 21 athletwr Cymru 14 o fedalau rhyngddyn nhw yn Tokyo y tro diwethaf – pedair aur, tair arian a saith efydd.

Yr athletwyr mwyaf profiadol yn y garfan yw Hollie Arnold (gwaywffon), Paul Karabardak (tenis bwrdd) a David Smith (boccia), sydd i gyd yn cystadlu yn eu pumed Gemau.

Ond ymhlith y cystadleuwyr yn eu Gemau cyntaf mae Matt Bush (para taekwondo), Rhys Darbey (nofio), Steffan Lloyd (para-seiclo), Funmi Oduwaiye (taflu pwysau), a Harrison Walsh (disgen).

Collodd Walsh allan yn Tokyo ar ôl cael ei anafu ar noswyl y Gemau.

Medalau?

Allan o’r 22 o athletwyr, bydd nifer o’r enwau mawr yn gobeithio dod adref â medalau aur.

Mae Aled Siôn Davies yn anelu am bedwaredd medal aur yn ei bedwerydd Gemau.

Bydd Laura Sugar hefyd yn gobeithio dal gafael ar ei medal aur hithau.

Yn y tenis bwrdd mae rhai o obeithion mwyaf Cymru am fedalau, ochr yn ochr â Matt Bush a Beth Munro yn y taekwondo.

Y Gymraes Olivia Breen, sy’n rhedeg ac yn cystadlu yn y naid hir, yw cyd-gapten Prydain.

Dyma gip ar yr holl athletwyr o Gymru sy’n cystadlu.

Olivia Breen

Olivia Breen wedi’i henwi’n gyd-gapten tîm Paralympaidd Prydain

Bydd yr athletwraig o Gymru’n rhannu’r cyfrifoldeb â Dan Pembroke yn Paris