Fydd y Cymro Louis Rees-Zammit ddim yn ymddangos yn yr NFL, y gynghrair bêl-droed Americanaidd yn ystod y tymor i ddod.

Daw hyn ar ôl i’r cyn-chwaraewr rygbi, fu’n chwarae ar yr asgell dros Gymru, gael ei dorri o’r garfan o 53 chwaraewr gan y Kansas City Chiefs.

Roedd yr ysgrifen ar y mur ddechrau’r wythnos hon ar ôl iddo fe adael y cae ymarfer ag anaf, ac wedyn ar ôl i’r crys rhif naw, y crys y bu’n ei wisgo wrth ymarfer, fynd un o’i gyd-chwaraewyr, JuJu Smith-Schuster.

Ar ôl cwta saith mis o chwarae ei gamp newydd, roedd hi’n annhebygol y byddai’n cael ei ddewis ar unwaith i’r brif garfan.

Ond fe allai ymddangos yn yr NFL rywbryd yn y dyfodol pe bai’n plesio fel rhan o’r garfan hyfforddi.

Mae e wedi llofnodi cytundeb tair blynedd, allai fod yn werth £2.7m yn y pen draw, ac felly mae ganddo fe ddwy flynedd eto i dorri i mewn i’r garfan a gwireddu ei freuddwyd o ymddangos yn un o gynghreiriau chwaraeon mwya’r byd.