Mae Craig Bellamy wedi cyhoeddi carfan o 24 o chwaraewyr ar drothwy ei gemau cyntaf wrth y llyw.
Bydd tîm pêl-droed Cymru’n chwarae yn erbyn Twrci a Montenegro fis nesaf (Medi 6 a 9), wrth i’w hymgyrch yng Nghynghrair y Cenhedloedd ddechrau.
Mae dau chwaraewr heb gap yn ymuno â’r garfan, sef Owen Beck o’r tîm dan 21, sydd newydd ymuno â Blackburn ar fenthyg o Lerpwl, a Karl Darlow, sy’n ŵyr i Ken Leek, aelod o garfan Cymru yng Nghwpan y Byd yn 1958.
Mae gôl-geidwad Leeds wedi’i gynnwys yn y garfan wrth i Wayne Hennessey, sydd wedi’i anafu, a Tom King golli allan.
Am y tro cyntaf ers dros flwyddyn, mae Ollie Cooper a Mark Harris wedi cael eu cynnwys yn y garfan hefyd, a bydd Sorba Thomas hefyd yn ailymuno â nhw.
Does dim lle i’r chwaraewr canol cae Joe Morrell y tro hwn, ac mae Rubin Colwill ymysg nifer o chwaraewyr ifainc fu’n chwarae gemau cyfeillgar yn ystod yr haf dan Rob Page sydd wedi colli’u lle.
Dydy Wes Burns, Nathan Broadhead na David Brooks ddim yn y garfan gan eu bod nhw wedi’u hanafu, a dydy Jay Dasilva, Dylan Levitt a Tom Bradshaw heb eu dewis chwaith.
Bydd Cymru’n herio Twrci yng Nghaerdydd ar Fedi 6, cyn wynebu Montenegro yn ninas Nikšić ar Fedi 9.
Mae’r ail gêm honno wedi’i symud o’r brifddinas Podgorica gan UEFA yn sgil safon y cae.