Mae Matty Jones, rheolwr tîm pêl-droed Cymru dan 21, wedi ymestyn ei gytundeb tan 2028.

Cafodd ei benodi i’r swydd fis Medi 2022, ac mae e wedi profi cryn lwyddiant, wrth i’r tîm geisio sicrhau eu lle yng ngemau ail gyfle Ewro 2025 gyda dwy gêm yn weddill.

Maen nhw’n ail yn eu grŵp ar ôl cael tair buddugoliaeth a dwy gêm gyfartal, gyda’u hunig golled yn dod yn erbyn Denmarc, sydd ar y brig.

Mae 31 o chwaraewyr wedi ennill eu capiau cyntaf o dan reolaeth Matty Jones, gyda Joe Low, Charlie Savage, Fin Stevens, Charlie Crew a Lewis Koumas bellach wedi ennill eu capiau llawn cyntaf dros eu gwlad.

‘Anrhydedd’

Dywed Matty Jones ei bod hi’n “anrhydedd” cael arwain tîm Cymru dan 21.

“Fodd bynnag, fe fu’n ymdrech gan yr holl staff sydd wedi darparu’r [amgylchfyd] gorau i’n chwaraewyr gael perfformio a chyflawni drwy gydol yr ymgyrch,” meddai.

Dywed fod llwyddiant y tîm wedi dod drwy “wrthdaro iach â’r chwaraewyr, sydd wedi dangos cryn awydd i ddysgu a gwella”.

Mae’n canmol “rhagoriaeth unigolion” a “dyfalbarhad” y tîm hefyd.

‘Gwaith caled’

“Rydyn ni wrth ein boddau fod Matty wedi cytuno i lofnodi estyniad i’w gytundeb er mwyn parhau yn ei rôl yn brif hyfforddwr tan 2028,” meddai David Adams, Prif Swyddog Pêl-droed Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Mae e eisoes wedi cyflawni nifer o ganlyniadau sydd wedi creu argraff yn ei ymgyrch gymhwyso gyntaf wrth y llyw, ac wedi rhoi’r tîm mewn sefyllfa dda yn y ddwy gêm olaf.

“Mae’r ffaith fod 31 o chwaraewyr wedi chwarae yn eu gemau cyntaf i’r tîm dan 21 yn ystod ei gyfnod wrth y llyw yn beth positif iawn i ni fel cymdeithas.

“Mae e hefyd wedi gweld pump o chwaraewyr yn camu i fyny i ennill capiau ar y lefel uchaf dros y ddwy flynedd ddiwethaf, sy’n dyst i waith caled Matty a’i staff.

“Bydd yr estyniad hwn yn ein galluogi ni i barhau â’n haliniad a chynnydd chwaraewyr i mewn i’r prif dîm am flynyddoedd i ddod.”