Gallai tîm pêl-droed dynion Prydain gael ei atgyfodi ar gyfer Gemau Olympaidd Los Angeles ymhen pedair blynedd, yn ôl adroddiadau.
Cafodd y tîm ei sefydlu ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain yn 2012, ond y bwriad bryd hynny oedd na fyddai’n digwydd eto.
Yn y garfan roedd chwaraewyr Cymreig fel Craig Bellamy, Ryan Giggs, Aaron Ramsey a Joe Allen.
Gobaith penaethiaid tîm Prydain yw y gallai’r tîm gael ei ailffurfio ar gyfer y Gemau nesaf yn 2028, ac mae disgwyl iddyn nhw gynnal trafodaethau â chymdeithasau Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ôl y papur newydd The i.
Mae gan y menywod dîm eisoes, ond wnaethon nhw ddim cymhwyso ar gyfer y Gemau sydd newydd ddod i ben yn Paris.
Enillodd Prydain fedal aur yn y bêl-droed i ddynion yn 1900, 1908 a 1912, ac fe wnaethon nhw gystadlu ym mhob Gemau rhwng 1948 a 1972.
Gwrthwynebiad
Er gwaetha’r awgrym, mae disgwyl i’r syniad o atgyfodi’r tîm wynebu cryn feirniadaeth.
Yn ôl cymdeithasau pêl-droed Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn 2012, roedd perygl y gallen nhw golli eu hunaniaeth fel timau unigol drwy uno o dan faner Prydain.
Ond penderfynodd rhai chwaraewyr chwarae ar ôl cael sicrwydd na fyddai hynny’n digwydd, ac roedden nhw dan yr argraff mai digwyddiad untro fyddai hwn ar gyfer y Gemau yn Llundain.
Collon nhw yn rownd yr wyth olaf yn y pen draw, a hynny ar giciau o’r smotyn yn erbyn De Corea yng Nghaerdydd.
Gallai’r syniad gael ei wrthwynebu gan glybiau hefyd, gyda’r Gemau’n cael eu cynnal dros yr haf wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer y tymor domestig newydd, ac mae’n bosib iawn na fydden nhw’n fodlon rhyddhau’r chwaraewyr i garfan Prydain.