Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad o £3m mewn cyfleusterau ar gyfer Pencampwriaeth dan 19 UEFA y dynion yn y gogledd.

Bydd y bencampwriaeth yn cael ei chynnal rhwng Mehefin a Gorffennaf 2026.

Bydd y rowndiau terfynol yn rhan o ddathliadau 150 mlwyddiant Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Bydd wyth tîm yn cystadlu, gyda saith tîm yn symud ymlaen trwy ddwy rownd ragbrofol i ymuno â Chymru, yr wythfed tîm.

Bydd cynnal y bencampwriaeth yn sicrhau bod talent ledled y cyfandir yn dod i Gymru, ac yn y gorffennol mae’r bencampwriaeth wedi rhoi llwyfan i sêr y dyfodol, gan gynnwys Kylian Mbappé ac Erling Haarland.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru wedi cymhwyso ddwywaith ar gyfer y Bencampwriaeth dan 17.

Lleoliadau 

Mae Stadiwm Nantporth ym Mangor, Parc Canolog Dinbych, Yr Oval yng Nghaernarfon a’r STōK Cae Ras yn Wrecsam wedi’u nodi fel lleoliadau i gynnal y gemau.

Y safleoedd ymarfer sydd wedi’u henwi yw

  • Ffordd Llanelian, Bae Colwyn
  • Parc y Glowyr, Gresffordd
  • Y Globe, Bwcle
  • Meysydd Chwarae Coffa Rhuthun
  • Belle Vue, y Rhyl
  • Yr Oval Newydd, Caergybi
  • Cae Sling, Penmaenmawr

Dywed Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl Droed Cymru fod “hwn yn fuddsoddiad sylweddol gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru i gyfleusterau ar draws gogledd Cymru”, a’i fod yn “gam allweddol arall i adeiladu diwydiant pêl-droed yng Nghymru sy’n cynrychioli cenedl bêl-droed fodern, flaengar”.

“Rydym yn falch iawn o allu buddsoddi ein harian mewn safleoedd pêl-droed allweddol ar draws gogledd Cymru, wrth i ni baratoi i gynnal Pencampwriaeth dynion dan 19 UEFA ym Mangor, Bwcle, Caernarfon, Bae Colwyn, Dinbych, Caergybi, Penmaenmawr, Y Rhyl, Rhuthun a Wrecsam,” meddai.