Mae Clwb Pêl-droed Preston North End wedi ffarwelio â’u rheolwr Ryan Lowe ar drothwy eu gêm oddi cartref yn Abertawe ddydd Sadwrn nesaf (Awst 17).

Cafodd ei benodi fis Rhagfyr 2021.

Ond yn dilyn trafodaethau, daeth y rheolwr a’r clwb i’r casgliad ei bod hi’n bryd iddo adael ei swydd ac i’r clwb wneud newidiadau.

Bydd Mike Marsh, cyn-is reolwr Abertawe gyda Steve Cooper, wrth y llyw ar gyfer y gêm yn erbyn yr Elyrch, ynghyd â Peter Murphy a’r Cymro Ched Evans.

Mae disgwyl cyhoeddiad ynghylch rheolwr parhaol ar ôl y gêm yn erbyn Abertawe.

Collodd Preston gartref o 2-0 yn erbyn Sheffield United yn eu gêm agoriadol yn y Bencampwriaeth nos Wener (Awst 9), tra bod Abertawe wedi colli o 1-0 oddi cartref ym Middlesbrough.