Drannoeth cloi’r Gemau Olympaidd yn Paris, mae cystadleuwyr o Gymru’n dathlu eu Gemau mwyaf llwyddiannus erioed.

Roedd 13 o fedalau i’r Cymry yn nhîm Prydain – tair medal aur, tair arian a saith efydd.

Fe wnaethon nhw ragori ar y deg medal enillon nhw yn Rio de Janeiro yn 2016 – pan enillon nhw ddeg medal aur, eu nifer fwyaf erioed – a’r wyth gawson nhw yn Tokyo y tro diwethaf.

Yn y rhwyfo a’r seiclo ddaeth perfformiadau gorau’r Cymry, wrth iddyn nhw gyrraedd y podiwm bum gwaith yr un.

Enillodd y nofiwr Matt Richards ddwy fedal, a daeth medal efydd i’r rhedwr Jeremiah Azu yn y ras gyfnewid.

Emma Finucane, y seiclwraig 21 oed, yw’r Gymraes gyntaf erioed i ennill tair medal (un aur a dwy efydd) yn yr un Gemau, a hithau yn ei Gemau cyntaf hefyd, a’r gystadleuwraig gynyn taf dros Brydain ers Mary Rand i gyflawni’r gamp honno.

Elinor Barker yw’r Gymraes gyntaf i ennill pedair medal Olympaidd, wrth iddi gipio’r arian a’r efydd yn Paris i’w hychwanegu at ei haur a’i harian yn Rio a Tokyo.

Dyma’r holl fedalau enillodd athletwyr o Gymru yn Paris:

  • Aur

Matt Richards a Kieran Bird (nofio – ras gyfnewid 4x200m dull rhydd i ddynion)

Emma Finucane (seiclo – ras wib tîm i fenywod)

Harry Brightmore (rhwyfo – llywiwr wythawd y dynion)

  • Arian

Matt Richards (nofio – 200m dull rhydd i ddynion)

Ollie Wynne-Griffith (rhwyfo – parau’r dynion)

Elinor Barker (seiclo – madison y menywod)

  • Efydd

Eve Stewart (rhwyfo – wythawd y menywod)

Matt Aldridge (rhwyfo – pedwarawd y dynion)

Becky Wilde (rhwyfo – sgwlio dwbwl y menywod)

Elinor Barker, Jess Roberts, Anna Morris (seiclo – cwrso tîm y menywod)

Emma Finucane (seiclo – keirin y menywod)

Jeremiah Azu (athletau – ras gyfnewid 4x100m y dynion)

Emma Finucane (seiclo – ras wib y menywod).