Fe wnaeth y Cymro Cymraeg Osian Pryce golli cyfle i ennill Rali’r Grampian dros y penwythnos, ond mae’n dal i fod yn y ras ar gyfer Pencampwriaeth Ralio Prydain er gwaetha’r canlyniad.

Daeth e’n ail yn y rali am y trydydd tro yn olynol, a hynny ar ôl troelli ar yr heol pan oedd ganddo fe gyfle i’w hennill.

Roedd ganddo fe a’i gyd-yrrwr Rhodri Evans fantais o bedair eiliad dros nos, ar ôl dau gymal cryf i ddechrau’r rali.

Roedden nhw ar y blaen ar ddechrau’r ail ddiwrnod, ond roedden nhw dan anfantais wrth fynd gyntaf, gan droelli ar y graean ar ffordd gul.

Fe wnaeth y digwyddiad gostio tua 30 eiliad i’r pâr, wrth iddyn nhw ostwng o’r brig i’r pedwerydd safle.

Ond llwyddon nhw i adennill rhywfaint o dir, ac 17 eiliad ar y cloc, i godi’n ôl i’r ail safle yn y pen draw, naw eiliad yn unig o’r brig.

Bydd Rali Ceredigion yn cael ei chynnal rhwng Awst 30 a Medi 1, ac mae hi wedi bod yn ras lwyddiannus i Osian Pryce yn y blynyddoedd diwethaf, wrth iddo fe orffen yn ail yn 2022 a’i hennill yn 2023 gyda phwyntiau llawn.

‘Dyna sut mae hi weithiau’

“Roeddwn i’n hapus efo’r perfformiad a’r cyflymdra yn Rali’r Grampian, er doedd e ddim y canlyniad delfrydol yn y pen draw,” meddai Osian Pryce.

“Roedd troelli’n dipyn o gamgymeriad twp gen i, a wnaeth o ddim helpu cael y wyneb rhydd a rhedeg yn gyntaf ar yr heol.

“Aeth yr olwynion ôl oddi ar y llinell, ac fe wnaethon ni droelli ar ran gul iawn o’r heol, oedd wedi gwneud troi rownd yn anodd.

“Roedd colli amser yn gosb fawr am y fath gamgymeriad bach, ond dyna sut mae hi’n mynd weithiau.

“Ar y cyfan, roeddwn i’n hapus efo’r ffordd aeth popeth.

“Mae’r car wedi dod yn ei flaen yn dda o ran ei osodiadau ers y rali ddiwethaf ar y graean, ac mae’n gweddu’n dipyn gwell i fy steil i o yrru rŵan.

“Mae canlyniad y Grampian yn rhoi pwyntiau da i ni yn y bencampwriaeth, ac mae’n cynnal ein her ar gyfer y teitl.

“Roedd hi’n rali dda, ac fe wnaethon ni wir fwynhau ein hunain – a rŵan gallwn ni edrych ymlaen at Rali Ceredigion.”