Mae tîm criced Morgannwg wedi colli cyfle mawr i sicrhau eu bod nhw’n gorffen ar frig eu grŵp yng Nghwpan Undydd Metro Bank, wrth golli o naw rhediad oddi cartref yn erbyn Swydd Gaerlŷr.

Tarodd Dan Douthwaite 61 oddi ar 40 o belenni wrth i’r sir Gymreig gwrso 272 i ennill, ond collodd y sir Gymreig wrth gael eu bowlio allan gydag wyth pelen yn weddill.

Sgoriodd Peter Handscomb 103 i’r Saeson, wrth i’r Iseldirwr Timm van der Gugten gipio pum wiced am 49 i Forgannwg.

Roedd hyn ar ôl i’r Saeson fod yn 59 am bump ar un adeg.

Roedd pedair wiced i Liam Trevaskis, troellwr llaw chwith y Saeson hefyd.

Tra bod Colin Ingram wrth y llain, roedd gan Forgannwg lygedyn o obaith, ond pan gollodd ei wiced am 68, roedd tynged y sir yn nwylo’r bowlwyr, fyddai’n gorfod batio’n gadarn.

Roedd Kiran Carlson a Sam Northeast hefyd wedi cyfrannu 31 yr un i osod y seiliau.

Adeiladodd Douthwaite a van der Gugten bartneriaeth bwysig o 44, ond collodd Morgannwg wicedi’n rhy aml yn y pen draw.

Er gwaetha’r canlyniad, mae Morgannwg yn dal ar frig y grŵp ar drothwy’r gêm olaf yn erbyn Swydd Efrog yng Nghaerdydd ddydd Mercher (Awst 14), ac maen nhw eisoes wedi sicrhau o leiaf gêm ail gyfle.