Un o fy hoff fannau i wylio pêl-droed yw Cae Chwarae Bryncrug yn yr hen Sir Feirionnydd, ac roedd rownd ragbrofol Tlws Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gyfle i wylio’r gêm ddarbi rhwng Tywyn Bryncrug a’r Bermo.

Mae’r daith yno yn un odidog wrth groesi dros y bont newydd sy’n croesi’r Afon Ddyfi a theithio trwy bentref glan môr Aberdyfi cyn cyrraedd cyrion tref Tywyn. Job anodd ydi penderfynu ble i gael hufen iâ cyn mynd draw i Fryncrug i wylio’r gêm.

Wedi cyrraedd y Cae Chwarae, mae yna baned ardderchog a chroeso cynnes i’w gael gan Dei a Geraint yn y caban. Fel y dywed fy nghyfaill Ifor Roberts, dyma ddau sy’n “asgwrn cefn y Clwb” ac sy’n wynebau cyfarwydd i unrhyw un sy’n gwylio pêl-droed yng ngogledd a chanolbarth Cymru.

Dei a Geraint

Pleser arall gwylio pêl-droed ar lan Afon Fathew, afon sy’n llifo i Afon Dysynni, yw cael sgwrs gyda’r cenedlaetholwr ac addysgwr Clifford Davies, sydd wedi gwneud cyfraniad anferthol ac arloesol i fywyd Cymru dros ddegawdau, ond sydd hefyd yn gyn-ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Tywyn Bryncrug.

Y gêm

Dechreuodd y gêm gyda’r ddau dîm yn ddigon cyfartal ac yn pwyso a mesur ei gilydd, a doedd dim wedi ein paratoi ar gyfer y tair gôl gafodd eu sgorio gan y tîm cartref mewn cwta saith munud.

Yn gyntaf, daeth cic o’r smotyn gan Nick Williams (16 munud), cyn i Iwan Richards (20 munud) sgorio’r ail gyda chymorth Aled Wyn Jones.

Aled Wyn Jones (23 munud) ei hun sgoriodd y drydedd gôl, ac roedd Piod y Bermo mewn sioc lwyr a’r flaenoriaeth oedd ceisio sefydlogi gyda dim ond chwarter y gêm wedi bod! Yn ddiangen, cafodd sgoriwr y drydedd gôl i Tywyn Bryncrug gerdyn melyn, gafodd ei ddilyn yn syth gan gerdyn coch (35 munud) a’r tîm cartref felly lawr i ddeg dyn.

Ar yr hanner doedd dim newid yn y sgôr gyda Thywyn Bryncrug ar y blaen o dair gôl i ddim.

Roedd yr ymwelwyr yn ymosodol, fel y disgwyl, yn yr ail hanner a daeth llygedyn o obaith wrth i Peter Aaron Young (51 munud) sgorio, gyda Siôn Ifan Williams (70 munud) yn ychwanegu at y sgôr gan greu anesmwythyd rhyfeddol ymysg y cefnogwyr cartref.

Erbyn hynny, roedd y Crug yn cael eu gwthio’n agosach fyth at eu gôl eu hunain, ond yn erbyn llif yn chwarae sgoriodd Iwan Richards (87 munud) wrth i’r Bermo daflu popeth at gôl eu gwrthwynebwyr. Aeth ton (ar ôl ton!) o ryddhad drwy’r dorf a siom ymysg y cefnogwyr oedd wedi teithio draw o’r Bermo!

Roedd angen y bedwaredd gôl honno arnyn nhw, oherwydd dangosodd y dyfarnwr Gwilym Lewis gerdyn melyn gafodd ei ddilyn y syth gan gerdyn coch (88 munud) i David Anthony Jenkins, gyda cherdyn melyn funud yn ddiweddarach i sgoriwr dwy o’r goliau – Iwan Richards!

Yn ddi-ffael, mae gemau rhwng y ddwy dref glan môr yma yn rhai cofiadwy, gyda’r chwaraewyr yn angerddol i’w tîm a thorf dda yn cefnogi – y tro hwn roedd dros 200 ar Gae Chwarae Bryncrug.

Dw i’n edrych ymlaen at ddilyn hynt a helynt y ddau glwb yn y cwpanau a’r cynghrair weddill y tymor!