Sgorfwrdd

Mae tîm criced Morgannwg yn anelu am le yn rownd gyn-derfynol Cwpan Undydd Metro Bank, y gystadleuaeth 50 pelawd, wrth deithio i Grace Road i herio Swydd Gaerlŷr heddiw (dydd Sul, Awst 11).

Maen nhw drwodd i’r rowndiau nesaf, ac yn sicr o gael o leiaf gêm ail gyfle.

Byddai gorffen yn ail yn golygu gêm ail gyfle gartref, a thrydydd yn golygu gêm oddi cartref.

Ond o orffen ar frig eu grŵp, byddan nhw’n sicrhau gêm gyn-derfynol ar eu tomen eu hunain.

Mae Colin Ingram yn dychwelyd i’r garfan yn lle Tom Norton, tra bod Eddie Byrom, Chris Cooke, James Harris, Ben Kellaway a Zain Ul Hassan yn dal i wella o anafiadau.

Mae’r Cymro Roman Walker, cyn-fowliwr cyflym Morgannwg, yng ngharfan y Saeson.

Carfan Swydd Gaerlŷr: S Budinger, B Cox, S Evans, B Green, P Handscomb, L Hill (capten), I Holland, A Rahane, T Scriven, H Swindells, L Trevaskis, R Walker, S Wood, C Wright.

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, D Douthwaite, A Gorvin, A Horton, H Hurle, C Ingram, J McIlroy, B Morris, S Northeast, B Root, A Tribe, W Smale,  T van der Gugten