Mae’r gêm griced 50 pelawd rhwng Morgannwg a Swydd Warwick yng Nghwpan Undydd Metro Bank yn Edgbaston wedi dod i ben yn gynnar oherwydd y glaw.

Mae’n golygu bod y sir Gymreig wedi colli eu record 100% yn y gystadleuaeth.

Roedd hon yn gêm rhwng y ddau dîm ar frig y tabl, wrth iddyn nhw anelu am gêm gartref yn rownd gyn-derfynol y twrnament.

Bydd y timau sy’n gorffen yn ail a thrydydd yn y ddwy gynghrair yn herio’i gilydd mewn gemau ail gyfle.

Manylion

Ar ôl oedi hir yn sgil y glaw, cafodd yr ornest ei chwtogi i 21 pelawd yr un.

Cyrhaeddodd Morgannwg 143 am bump mewn deunaw pelawd yn dilyn rhagor o law, wrth i Sam Northeast daro 68 heb fod allan oddi ar 39 o belenni.

Cafodd nod Swydd Warwick ei addasu i 155 ar sail dull DLS, ond daeth y glaw eto cyn iddyn nhw allu wynebu’r un belen.

Swydd Gaerlŷr fydd gwrthwynebwyr nesaf Morgannwg, a hynny oddi cartref y penwythnos nesaf.