Mae’r bachwr Bradley Roberts wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o rygbi.

Enillodd y chwaraewr 29 oed bum cap dros Gymru, gan chwarae 27 o weithiau i ranbarth y Dreigiau dros ddau dymor a sgorio saith cais.

Chwaraeodd ei gêm olaf ym mis Ionawr, ac yn dilyn anaf i’w gefn mae e wedi penderfynu dychwelyd i Dde Affrica.

Dywed iddo gael gyrfa “fer ond melys”, a’i fod yn llawn “balchder”, ac mae wedi diolch i’r rhanbarth a’r cefnogwyr.

Gyrfa

Cafodd Bradley Roberts ei eni yn Durban yn Ne Affrica, ond symudodd i Gymru at y Dreigiau yn 2022.

Cyn hynny, bu’n chwarae i Ulster yng Ngogledd Iwerddon a Rygbi Gogledd Cymru.

Daeth ei gap rhyngwladol cyntaf yn erbyn ei famwlad yng ngemau’r hydref yn 2021.

Mae Dai Flanagan, prif hyfforddwr y Dreigiau, wedi dymuno’n dda iddo ar gyfer y dyfodol.