Mae’r seren dramor Colin Ingram wedi’i hepgor o garfan griced Morgannwg ar gyfer eu gêm hollbwysig yn erbyn Swydd Warwick yng Nghwpan Undydd Metro Bank yn Edgbaston heddiw (dydd Iau, Awst 9).
Mae’r batiwr llaw chwith o Dde Affrica wedi bod i mewn ac allan o’r garfan yn ddiweddar, ac maen nhw’n dweud ei fod e’n gorffwys ar gyfer y gêm hon.
Mae Morgannwg wedi ennill eu pum gêm gyntaf yn y gystadleuaeth, ac maen nhw ar frig eu grŵp ac yn llygadu lle yn y rownd gyn-derfynol – pe baen nhw’n gorffen yn ail neu’n drydydd, byddan nhw’n mynd i rownd ail gyfle.
Mae Morgannwg uwchben Swydd Warwick ar hyn o bryd ar sail eu cyfradd sgorio, gyda’r ddau dîm ar ddeg pwynt yr un yn y tabl.
‘Hyder’
“Mae’r garfan yn hyderus iawn yn sgil y perfformiadau dros yr wythnosau diwethaf,” meddai’r prif hyfforddwr Grant Bradburn.
“Mae yna hunangred amlwg yn y tîm, sy’n cefnogi’i gilydd yn dda i berfformio a chael effaith.
“Rydyn ni wedi bod yn benderfynol o ganolbwyntio a rhoi ein holl egni i mewn i bob gêm a mwynhau ein brand o griced, sy’n gweddu i’n chwaraewyr.
“Mae yna her anodd arall yr wythnos hon gyda dwy gêm yn erbyn timau o safon, ac mae pawb yn edrych ymlaen atyn nhw.”
Timau
Mae’r bowliwr cyflym Timm van der Gugten a’r wicedwr Alex Horton yn dychwelyd i’r garfan, ond dydy’r batiwr Eddie Byrom, y chwaraewyr amryddawn Ben Kellaway a Zain Ul Hassan, y wicedwr Chris Cooke na’r bowliwr cyflym James Harris ddim ar gael oherwydd anafiadau.
Carfan Swydd Warwick: E Barnard (capten), Tazeem Ali, C Benjamin, M Burgess, M Booth, O Hannon-Dalby, J Lintott, C Miles, W Rhodes, Hamza Shaikh, K Smith, T Wylie, R Yates
Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, D Douthwaite, A Gorvin, A Horton, J McIlroy, B Morris, S Northeast, B Root, A Tribe, W Smale, T van der Gugten, H Hurle, T Norton