Bydd Harry Podmore, bowliwr cyflym tîm criced Morgannwg, yn ymddeol o’r gêm broffesiynol ar ddiwedd y tymor.
Ymunodd e â’r sir ar fenthyg o Middlesex yn 2016, cyn symud yn barhaol cyn dechrau’r tymor diwethaf.
Cafodd e gyfnod gyda Chaint a Swydd Derby hefyd, cyn treulio’r ddwy flynedd ddiwethaf gyda Morgannwg.
Mae e wedi chwarae mewn 109 o gemau, gan gipio 222 o wicedi yn ystod ei yrfa, ac mae ganddo fe gyfartaledd o 27.
‘Llongyfarchiadau’
“Hoffem ddymuno’r gorau i Harry ar achlysur ei ymddeoliad, a’i longyfarch ar yrfa wych,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.
“Rydym wedi mwynhau ei gael e yma yn y clwb yn fawr iawn, ac mae’n gadael â dim byd ond ein dymuniadau gorau a’n diolch am ei ymdrechion dros y tîm ar y cae ac oddi arno.
“Dw i’n siŵr y bydd e’n canfod llwyddiant lle bynnag fydd e’n troi ei law nesaf, ac edrychwn ymlaen i’w groesawu’n ôl i Erddi Sophia fel gwestai yn y dyfodol.”
‘Cymaint o atgofion anhygoel’
“Dw i wedi chwarae criced proffesiynol dros y 13 tymor diwethaf – gyda Middlesex, Swydd Derby, Caint a Morgannwg – ac wedi bod yn ffodus wrth fod yn rhan o dimau sydd wedi ennill pob un o dri phrif dlws criced Lloegr – Pencampwriaeth y Siroedd, y gystadleuaeth 50 pelawd a’r Blast,” meddai Harry Podmore.
“Roeddwn i hefyd yn falch iawn o gael fy enwi’n gap rhif 218 gyda Chaint.
“Drwy gydol yr holl flynyddoedd hyn, dw i wedi cwrdd â chynifer o bobol anhygoel ac wedi creu cymaint o atgofion anhygoel, a dw i’n wirioneddol ddiolchgar am gefnogaeth pob un o’n cyd-chwaraewyr, hyfforddwyr a staff cynorthwyol, gyda nifer ohonyn nhw’n parhau’n ffrindiau agos.
“Dw i hefyd yn hynod ddiolchgar i arweinwyr Clwb Criced Morgannwg am eu hempathi a’u dealltwriaeth wrth adael i fi ymddeol ar fy nhelerau fy hun. Ychydig iawn o chwaraewyr sy’n cael gwneud hynny.
“Dw i wir wedi mwynhau fy ngyrfa griced, ond nawr alla i ddim aros i gael dechrau ar fy ail yrfa, cael bwrw iddi a dysgu’n gyflym.”