Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cyhoeddi eu bod nhw am ailenwi bar y cefnogwyr yn Stadiwm Swansea.com er cof am Mel Nurse, un o’r ffigurau pwysicaf yn eu hanes.

Bydd y bar yn Eisteddle’r Dwyrain yn cael ei ailenwi ar gyfer y tymor sydd i ddod, ar ôl mynd ati i geisio dod o hyd i rywle addas i’w anrhydeddu’n barhaol.

Fe wnaeth y cyn-amddiffynnwr o ardal Cwmbwrla’r ddinas gynrychioli tîm y ddinas dros 250 o weithiau mewn dau gyfnod gyda’r clwb dros ddegawd.

Enillodd e ddeuddeg o gapiau dros Gymru rhwng 1960 a 1961.

Ar ôl ymddeol, daeth yn gyfarwyddwr y clwb, gan gamu i’r adwy ddwywaith pan aeth y clwb i drafferthion ariannol.

Yn ôl y clwb, mae’n bosib na fyddai’r clwb wedi gweld llwyddiant yn y degawdau dilynodd y cyfnod cythryblus hwnnw oni bai am gyfraniad Mel Nurse.

Dywed y clwb fod rhoi enw Mel Nurse ar y bar yn atgof o’r bar ar y ‘North Bank’ yng nghae’r Vetch, hen gartre’r clwb, ac mae’r arwydd ar gyfer y bar newydd yn seiliedig ar yr arwydd oedd yn y Vetch.