Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r cyn-ddyfarnwr rygbi Ken Parfitt, sydd wedi marw’n 83 oed.

Roedd hefyd yn Ysgrifennydd ar Glwb Rygbi Llanelli a’r Crawshays.

Yn enedigol o Bontrhydyfen yng Nghwm Afan, bu’n dyfarnu ar lefel clybiau Cymru rhwng 1972 a 1988, gan ddod yn uchel ei barch yn y gamp.

Bu’n dyfarnu yng nghystadleuaeth saith bob ochr fyd-enwog Hong Kong yn 1984, ac roedd e wrth y llyw ar gyfer gêm y Crysau Duon yn erbyn y Gwasanaethau Cyfun yn 1978.

Ar ôl awgrymu ei fod e am ymddeol yn 1984, aeth yn ei flaen am bedair blynedd arall gan ymddeol ar ôl un gêm ar ddechrau tymor 1988.

Bu’n gweithio i British Rail am 26 o flynyddoedd cyn dod yn weinyddwr tîm dan 21 Llanelli ac yna’n Ysgrifennydd Clwb Rygbi Llanelli yn 1993, gan dreulio pum mlynedd yn y rôl ar ôl goroesi cystadleuaeth i’w rôl yn 1996.

Ar ôl gadael Llanelli, symudodd yn ei flaen i’r Crawshays, gan fynd ar deithiau i Bortiwgal a De Affrica.

Yn 2012, bu’n rheoli tîm Datblygu’r Gweilch cyn dod yn rheolwr tîm Castell-nedd y flwyddyn ganlynol.

Bu’n aelod o nifer o bwyllgorau sirol a chenedlaethol yr Urdd.

Roedd e hefyd yn chwarae bowls, gan ennill nifer o gystadlaethau lleol.

Teyrngedau

Mewn datganiad, dywed Undeb Rygbi Cymru eu bod nhw’n cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Ken Parfitt.

Yn gefnogwr Clwb Pêl-droed Abertawe, mae’r clwb wedi cyhoeddi teyrnged yn dweud eu bod nhw’n meddwl am y teulu.

Dywed y cyn-ddyfarnwr Nigel Owens fod Ken Parfitt “yn ddyn da” a’i fod “bob amser yn mwynhau sgwrs gyda fe”.

Yn ôl y sylwebydd criced Edward Bevan, roedd “yn ŵr bonheddig iawn”.

“Bydden ni bob amser yn cael sgwrs am rygbi a phêl-droed cyn gemau cartre’r Elyrch, a bydd colled enfawr ar ei ôl,” meddai.

Dywed y sylwebydd Jonathan Davies ei fod yn “gymeriad gwych, oedd byth yn siarad lawr i’r chwaraewyr”.

Mae’r cerddor Angharad Jenkins wedi talu teyrnged hefyd, gan gofio’u dyddiau yn cydweithio gyda’r band ysgol Crwban Coch.

“Newyddion trist iawn,” meddai.

“O’dd Ken fel ‘tour manager’ ac asiant i’n grŵp bach gwerin cyntaf ni, Crwban Coch, pan oeddwn yn Ysgol Gyfun Gŵyr.

“Atgofion melys o ddyddiau ysgol gyda Ken yn gyrru ni o gwmpas i berfformio ym mhob math o lefydd – wastad yn gwenu a golwg bach direidus ar ei wyneb, a hefyd mor gefnogol o’n siwrne cerddorol ni.”

Mae Urdd Gorllewin Morgannwg hefyd wedi cyhoeddi teyrnged, gan ddweud ei fod yn drysorydd Pwyllgor Cylch Nedd ac Afan, yn gyn-gadeirydd y Pwyllgor Rhanbarth ac yn aelod “brwdfrydig” o Bwyllgor Gwaith Eisteddfod Dur a Môr 2025.

Roedd hefyd yn weithgar yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, meddai’r mudiad.

Mae’r Urdd hefyd wedi talu teyrnged i Mair Roberts, gwraig Ian Roberts sy’n aelod blaenllaw o’r pwyllgorau lleol.

“Yn aml, byddai Mair yn dod i’r Eisteddfodau Cylch a Sir, yn helpu wrth y drws a phob amser gyda gwên garedig”.