Mae tîm criced Morgannwg wedi curo Essex o 32 rhediad yng Nghwpan Undydd Metro Bank.

Dyma’u pumped buddugoliaeth o’r bron yn y gystadleuaeth – y tro cyntaf iddyn nhw ennill eu pum gêm Rhestr A gyntaf ers 2004, pan enillon nhw’r gynghrair undydd.

Roedd y sir Gymreig 283 i gyd allan, wrth i Sam Northeast sgorio 89 yn ei gêm gyntaf ers gwella o anaf i linyn y gâr.

Roedd cyfraniadau hefyd o 42 gan Will Smale, a 34 yr un gan Billy Root a Dan Douthwaite, wrth i Shane Snater a Jamal Richards gipio tair wiced yr un i Essex.

Tarodd Tom Westley, capten y Saeson, 51 ac roedd cyfraniadau hefyd o 42 gan Aaron Beard a 39 gan Luc Benkenstein.

Ond roedd bowlio Morgannwg yn rhy gryf wrth i Jamie McIlroy, Dan Douthwaite a Ben Morris gipio tair wiced yr un.