Sgorfwrdd

Taith i Chelmsford i herio Essex sydd gan Forgannwg heddiw (dydd Sul, Awst 4).

Ar ôl dwy fuddugoliaeth yng Nghastell-nedd yr wythnos ddiwethaf, mae ganddyn nhw un droed yn y rowndiau nesaf eisoes, â hwythau’n gydradd gyntaf yn y tabl â Swydd Warwick.

Mae Essex yn seithfed yn y tabl.

Mae Colin Ingram a Timm van der Gugten yn cael gorffwys ar gyfer y gêm hon, tra bod Alex Horton wedi’i ryddhau i’r ail dîm.

Ond mae Sam Northeast yn dychwelyd ar ôl gwella o anaf i linyn y gâr.

Hefyd wedi’i ddewis mae Tom Norton, 16, sy’n aelod o’r Academi.

Carfan Essex: B Allison, C Allison, A Beard, L Benkenstein, N Browne, R Das, S Fernandes, F Khushi, J Richards, S Snater, N Thain, T Westley (capten)

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, E Byrom, D Douthwaite, A Gorvin, B Kellaway, J McIlroy, B Morris, S Northeast, B Root, A Tribe, W Smale, H Hurle, T Norton