Mae’r chwaraewr rheng ôl Jac Morgan wedi’i enwi’n gapten Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Mae’r garfan o 34 o chwaraewyr wedi ymgynnull i ddechrau eu paratoadau, ac mae Josh Adams, Elliot Dee, Taulupe Faletau, Dafydd Jenkins, Joe Roberts a Liam Williams wedi dychwelyd ar ôl i anafiadau eu cadw nhw allan o gemau’r hydref.
Mae dau wyneb newydd yn y garfan, sef y maswr Dan Edwards a’r asgellwr Ellis Mee, ac mae disgwyl i wyth chwaraewr arall chwarae yn y Chwe Gwlad am y tro cyntaf, gan gynnwys Ellis Bevan, Josh Hathaway, Eddie James, Blair Murray a Freddie Thomas.
Mae’r prop WillGriff John a’r bachwr Sam Parry hefyd yn ôl yn y garfan.
Ond dydy’r maswr Gareth Anscombe ddim wedi’i gynnwys, ac mae’r maswr arall Sam Costelow allan ag anaf.
Hefyd yn absennol mae Max Llewellyn, Rio Dyer, Cameron Winnett, Taine Plumtree, Dewi Lake, Ryan Elias, Sam Costelow, Adam Beard, Ben Carter, Archie Griffin a Mason Grady.
Bydd ymgyrch Cymru’n dechrau oddi cartref yn Ffrainc ar Ionawr 31.
Byddan nhw’n teithio i’r Eidal cyn croesawu Iwerddon.
Byddan nhw’n teithio i’r Alban cyn cwblhau’r twrnament gartref yn erbyn Lloegr ar Fawrth 15.
‘Cydbwysedd, a chyfuniad o brofiad a thalent ifanc’
“Rydyn ni wedi dewis carfan sydd â chydbwysedd a chyfuniad o brofiad a thalent ifanc hefyd,” meddai Warren Gatland.
“Mae gan y grŵp yma lawer iawn o addewid a byddwn yn gweithio hyd eitha’n gallu yn ystod yr ymgyrch hon.
“Mae’r Chwe Gwlad yn gystadleuaeth arbennig iawn – sy’n llawn angerdd – a bydd hynny’n bendant yn wir wrth i ni deithio i Ffrainc ar gyfer ein gêm gyntaf eleni.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael y bechgyn at ei gilydd yr wythnos nesaf.
“Bydd pob sesiwn ymarfer unigol yn bwysig iawn yn ein paratoadau ar gyfer her y Ffrancod.
“Bydd y bechgyn yn gorfod gweithio’n arbennig o galed a dangos eu bod yn gweithio gyda’i gilydd ymhob agwedd o’r ymarfer.
“Yn anffodus, bydd nifer o chwaraewyr yn siomedig nad ydyn nhw wedi cael eu cynnwys yn y garfan y tro yma – ond fy neges syml i’r unigolion hynny yw – parhewch i weithio’n galed rhag ofn bod pethau’n newid cyn neu yn ystod y Bencampwriaeth.”
Blaenwyr
Keiron Assiratti (Rygbi Caerdydd), James Botham (Rygbi Caerdydd), Elliot Dee (Dreigiau), Taulupe Faletau (Rygbi Caerdydd), Dafydd Jenkins (Caerwysg), WillGriff John (Sale), Evan Lloyd (Rygbi Caerdydd), Kemsley Mathias (Scarlets), Jac Morgan (Gweilch, capten), Sam Parry (Gweilch), Tommy Reffell (Caerlŷr), Will Rowlands (Racing 92), Nicky Smith (Caerlŷr), Gareth Thomas (Gweilch), Freddie Thomas (Caerloyw), Henry Thomas (Scarlets), Christ Tshiunza (Caerwysg), Aaron Wainwright (Dreigiau), Teddy Williams (Rygbi Caerdydd).
Olwyr
Josh Adams (Rygbi Caerdydd), Ellis Bevan (Rygbi Caerdydd), Dan Edwards (Gweilch), Josh Hathaway (Caerloyw), Eddie James (Scarlets), Ellis Mee (Scarlets), Blair Murray (Scarlets), Joe Roberts (Scarlets), Tom Rogers (Scarlets), Ben Thomas (Rygbi Caerdydd), Nick Tompkins (Saraseniaid), Owen Watkin (Gweilch), Liam Williams (Saraseniaid), Rhodri Williams (Dreigiau), Tomos Williams (Caerloyw)