Does dim lle i dîm pêl-droed Merthyr Tudful yng Nghwpan Cynghrair Cymru ar ei newydd wedd.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi rhagor o fanylion i ailwampio’r gystadleuaeth, gan ddweud y gallai gynhyrchu £3m ychwanegol bob tymor i gefnogi pêl-droed ar bob lefel yng Nghymru.
Mae hefyd yn rhan o gynlluniau’r Gymdeithas Bêl-droed i godi proffil y JD Cymru Premier, gan roi’r cyfle iddyn nhw chwarae yn erbyn timau ar lefel uwch.
Yn sgil hynny, mae Abertawe, Caerdydd, Casnewydd a Wrecsam – y pedwar tîm o Gymru sy’n chwarae yng Nghynghrair Bêl-droed Lloegr – wedi derbyn gwahoddiad i’r gystadleuaeth.
Roedd y Gymdeithas Bêl-droed yn awyddus i Ferthyr ymuno â’r JD Cymru Premier yn 2026, ond byddai hynny wedi golygu gadael y pyramid Seisnig, gyda’r clwb ar hyn o bryd yn chwarae yn Uwch Gynghrair (De) Cynghrair y De.
Bydd enillydd y gystadleuaeth yn cael lle yn rowndiau rhagbrofol un o gystadlaethau UEFA, gan roi’r cyfle i dimau o Gymru chwarae dan faner y Ddraig Goch yn Ewrop.
Mae’r strwythur wedi cael sêl bendith timau’r JD Cymru Premier a’r pedwar tîm yng nghynghreiriau Lloegr.
Ariannu
Ers 2022, mae Sefydliad Pêl-droed Cymru wedi derbyn £17m, tra bod Sefydliad Pêl-droed Lloegr wedi derbyn £327m i’w fuddsoddi ar lawr gwlad.
O ganlyniad, dywed Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod angen ffynonellau newydd o arian er mwyn gwella’r gêm yng Nghymru.
Yn dilyn trafodaethau ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Llywodraeth Cymru, mae’r penderfyniad terfynol yn nwylo’r Gymdeithas Bêl-droed, sydd â’r cyfrifoldeb o roi sêl bendith i dimau o Gymru i gael chwarae yng nghystadlaethau Lloegr.
“Bydd hyn yn newid y darlun o ran datblygu’r gêm, wrth i ni weithio i ddatgloi potensial pêl-droed Cymru,” meddai Noel Mooney, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Bydd yn uno pêl-droed yng Nghymru, yn gwella’r gêm ar bob lefel, ac yn cyflwyno manteision cymdeithasol ystyrlon ledled Cymru, gan wneud ein clybiau a’n cymunedau’n fwy cynaliadwy.”