Enw llawn: Rhŷn Williams
Dyddiad Geni: 1988
Man Geni: Pwllheli
Swydd: Artist / Ymchwilydd
Mae celf i bawb, nid ar gyfer y rhai dethol yn unig.
Dyma farn angerddol yr artist ac ymchwilydd Rhŷn Williams o Bwllheli, sydd wedi cyflwyno gwaith celf arbennig yn ddiweddar yng Nghastell Gwrych.
Petai Rhŷn yn disgrifio’i hun mewn tri gair, ‘chwilfrydig, uchelgeisiol ac ecsentrig’ fyddai’r geiriau hynny. Un o’i atgofion cynharaf yw mwynhau creu celf ar iard yr ysgol. Ond doedd ei daith addysgol ddim yn fêl i gyd.
“Dw i wedi cael trafferthion gyda fy iechyd meddwl erioed, dyslecsia, Anhwylder Obsesiynol Cymhellol (OCD) a symptomau Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD). Ers fy mhlentyndod, pan doeddwn i ddim rhedeg o gwmpas gyda llwyth o egni, dw i’n cofio canolbwyntio ar bethau manwl fel creu planiau tŷ drwy gasglu cerrig mân ar iard ysgol a chreu waliau gyda nhw.
“Dw i hefyd yn cofio teimlo’n hapus iawn wrth greu celf. Doeddwn i ddim yn gwneud yn dda o gwbl mewn pynciau fel Mathemateg, Cymraeg a Saesneg. Doeddwn i hefyd ddim yn deall pam fod disgyblion oedd yr un oed â fi yn gallu cwblhau eu gwaith ysgol i safon uchel pan oeddwn i ar ei hôl hi.”
Castell Gwrych
Ers 2018, mae Rhŷn wedi bod yn brysur yn ymchwilio hanes Castell Gwrych a’r cymeriadau sydd wedi bod ynghlwm â’r castell ar draws y blynyddoedd. Adfail gothig ar arfordir gogledd Cymru yw’r castell, sydd wedi ennill enwogrwydd yn fwy diweddar fel lleoliad ffilmio ar gyfer y rhaglen deledu I’m A Celebrity, Get Me Out of Here!
Fis yma, fe gyflwynodd Rhŷn waith celf arbennig yn y castell – portread olew ar gynfas o Winifred Bamford Hesketh, Iarlles Dundonald. Wrth dyfu i fyny, roedd yr iarlles yn byw ym mhreswylfeydd ei theulu yn Llundain, Torquay a Chastell Gwrych. Roedd hi’n chwe throedfedd o daldra (182cm).
“Fy llun diweddaraf yw portread o Winifred, Iarlles Dundonald. Yn 1886-87, fe baentiodd Anna Lea Merritt waith celf ohoni, ond yn 1924 pan fu farw Winifred, fe ddiflannodd y gwaith. Y gred yw bod y gwaith gwreiddiol wedi cael ei ddinistrio. Felly, gan mlynedd wedyn, roedd yn bleser i mi gyflwyno’r adluniad,” meddai.
Rhai o brif ddylanwadau artistig Rhŷn yng Nghymru, ymhlith eraill, yw Jac Jones, Meinir Mathias, Kevin Sinnott a Meirion Ginsberg. Ei freuddwyd fawr fel artist ac unigolyn yw cyfrannu cymaint ag y gall at gyfoeth y diwylliant Cymreig ac “ysbrydoli pobol eraill i wneud yr un peth.”
‘Rhwygo drwy ddiwylliant’
Un o’r pethau sy’n ei boeni yw sut mae technoleg Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn “rhwygo drwy ddiwylliant celfyddydol Cymraeg a Chymreig.”
“Mae’n fy nghythruddo pan mae cwmnïau a phobol yn dewis defnyddio technoleg AI yn hytrach na gofyn i ni, y celfyddwyr i greu. Mae’n rhy hawdd i bobol ei defnyddio, a dyw’r Llywodraeth ddim i weld yn poeni llawer am y peth.”
Mae’n credu bod y sîn gelfyddydol yng Nghymru ar hyn o bryd “yn un obeithiol”, ond fod angen i artistiaid “gydweithio mwy gyda’i gilydd”.
“Dw i’n credu, mewn gwlad mor fach â Chymru lle mae Lloegr wedi dinistrio cymaint o’n diwylliant drwy wladychu ac atal ein pobol, ei bod yn bwysig i gelfyddwyr weithio gyda’i gilydd yn hytrach na chystadlu. Rydan ni gyd angen helpu i gynhyrchu a chyfrannu gymaint â phosibl at hunaniaeth ein gwlad.
“Mae celf i bawb, nid ar gyfer y rhai dethol yn unig.”