Gareth Bale - un o sêr yr Olympics?
Mae un o leisiau amlycaf pêl-droed Cymru yn amau a fydd chwaraewyr fel Aaron Ramsay a Gareth Bale yn cael rhwydd hynt i chwarae yn yr Olympics gan eu clybiau.

Hyd yma mae’r ffrae wedi canolbwyntio ar wrthwynebiad Cymdeithasau Pêl-droed Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i ryddhau eu chwaraewyr ar gyfer y gemau – yr ofn yw y byddai tîm Prydeinig yn yr Olympics yn arwain at bwysau am dîm o’r fath yn cystadlu ar y lefel rhyngwladol, gan olygu diflaniad timau Cymru a’r Alban a Lloegr.

Ond mae sylwebydd Sgorio Dylan Ebenezer a fydd prif chwaraewyr Uwch Gynghrair Lloegr yn cael eu rhyddhau ar gyfer cystadleuaeth bêl-droed yr Olympics, sy’n digwydd rhwng 27 Gorffennaf a 12 Awst y flwyddyn nesaf.

Mae tymor Uwch Gynghrair Lloegr yn cychwyn ddeuddydd wedyn ar Awst 14.
‘‘Nid wyf yn gweld llawer o’r clybiau yn rhyddhau eu chwaraewyr i chwarae yn y Gemau Olympaidd’’, meddai Dylan Ebenezer.

Mae’r tîm pêl-droed Prydeinig yn ôl yn y penawdau’r wythnos hon gyda’r Sais Stuart Pearce, cyn-reolwr Manchester City a rheolwr presennol tîm dan 21 Lloegr, yn cael ei enwi’n reolwr Tîm Prydain. 

 ‘‘Ni allent fod wedi dewis rhywun fwy Seisnegaidd ei ddarlun’’, meddai Dylan Ebenezer.

‘‘Mae [Pearce] wedi bod mewn rhyw fath o ddadl gydag mwy nag un hyfforddwr pan oedd yn hyfforddi yn yr Uwch Gynghrair, felly a oedd hwn yn ddewis call? Bydd rhaid iddo dawelu’,” ychwanegodd Dylan Ebenezer.

Stuart Pearce a Thîm Prydain – syniad da?

‘‘Dw i ddim yn hollol gytûn â’r syniad o dîm pêl-dored Prydain ta beth, na Stuart Pearce yn ei hyfforddi.  Nid yw’n synnu mai Sais a gafodd y swydd,” meddai Guto Llewelyn sy’n gefnogwr brwd o dîm pêl-droed Abertawe.

‘‘Wrth gofio am ei adeg yn hyfforddi Manchester City, pêl-droed amddiffynnol a di-fflach yr oeddwn yn dyst i,’’ ychwanegodd.

 Mae Rhys Llwyd, sy’n chware pêl-droed i Bow Street yng Ngheredigion, yn codi cwestiwn diddorol – a fydd Pearce yn dewis Saeson ifanc ar gyfer y tîm Prydeinig er mwyn iddyn nhw elwa o’r profiad ar lwyfan rhyngwladol?

‘‘Gan ei fod yn hyfforddi Lloegr dan 21, a’i Saeson fydd y fwyafrif tybed?’’

 Dyw hyfforddwr Caerfyrddin yn Uwch Gynghrair Cymru ddim yn synnu mai Sais sydd wrth y llyw.

‘‘Dyw hi ddim yn sioc mai Sais fydd yn hyfforddi’r tîm’’, meddai Tomi Morgan.

‘‘Ond wedi dweud hynny, mae ganddo ddigon o brofiad ac yn llwyddiannus gyda Lloegr dan 21, felly maen edrych mai dyma’r dewis iawn’’, ychwanegodd.