Perfformiad ola'r dewin Shane yn y crys coch?
Mae Cymru wedi colli o 21-18 yn erbyn Awstralia, gan orffen yn bedwerydd yng Nghwpan Rygbi’r Byd.

Dyma oedd “perfformiad mwya’ siomedig Cymru yn ystod Cwpan y Byd” yn ôl y sylwebydd Gareth Charles ar Radio Cymru.

Maswr Awstralia Berwick Barnes oedd seren y gêm.

Yn ôl sylwebaeth Radio Cymru roedd disgyblaeth Cymru’n siomedig, a hynny wedi i’r chwaraewyr fedru cadw o fewn y rheolau am y mwyafrif llethol o weddill y twrnament.

Er gwaetha’r brolio ar Gymru felly, mi fethon nhw â churo De Affrica, Awstralia a Ffrainc.

Iwerddon yn unig o dimau prif lif rygbi’r byd gafodd eu maeddu gan Gymru.

53,000 oedd maint y dorf ar gyfer y gêm yn Eden Park yn Auckland y bore yma.

Chwarter canrif yn ôl y Cymru oedd yn fuddugol yn y gêm trydydd safle, yn maeddu Awstralia o drwch blewyn, 22-21.

Ond i fod yn bositif, dim ond ychydig dros fis sy’n rhaid i fois Cymru aros cyn cael herio Awstralia eto.

Mi fydd y Wallabies yn dod i Stadiwm y Mileniwm ar y trydydd o Ragfyr i herio’r crysau cochion mewn gêm gyfeillgar.