Mae tîm criced Morgannwg wedi cael gwybod trefn eu gemau ar gyfer Tlws Bob Willis, sy’n dechrau’r wythnos nesaf.

Yn hytrach na’r ddwy adran arferol, a hynny yn sgil y coronafeirws, mae’r 18 sir wedi’u rhannu’n dri grŵp o chwe sir – y De, y Gogledd a’r Canolbarth, ac yng ngrŵp y Canolbarth mae Morgannwg.

Bydd pob tîm yn herio’i gilydd unwaith, ac fe fydd Morgannwg yn chwarae dwy gêm gartref a thair oddi cartref.

Bydd y siroedd yn cystadlu am Dlws Bob Willis, cyn-gapten tîm Lloegr a sylwebydd criced fu farw fis Rhagfyr y llynedd.

Doedd dim modd i’r tymor ddechrau cyn Awst 1 yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws.

Fydd torfeydd ddim ond yn cael mynd i rai gemau, mewn lleoliadau sy’n rhan o arbrawf i groesawu cefnogwyr yn ôl i gemau.

Gemau Morgannwg

Bydd y tymor yn dechrau ar Awst 1, a thaith i Taunton i herio Gwlad yr Haf fydd gan Forgannwg i ddechrau.

Byddan nhw wedyn yn croesawu Swydd Gaerloyw i Gaerdydd ar Awst 18.

Gwrthwynebwyr eraill Morgannwg fydd Swydd Gaerwrangon, Swydd Northampton a Swydd Warwick.

Bydd y ddau dîm gorau o blith yr holl grwpiau yn herio’i gilydd yn y rownd derfynol ar Fedi 30.

Dydy’r tymor sirol erioed wedi dod i ben mor hwyr yn y flwyddyn.

Bydd trefn y gemau ugain pelawd yn cael ei chyhoeddi maes o law.

‘Gwedd newydd’

“Mae yna wedd newydd ar Bencampwriaeth y Siroedd y tymor hwn wrth i ni chwarae’n rhanbarthol ond mae hefyd yn gyffrous,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Rydyn ni mewn grŵp anodd a byddwn ni’n chwarae yn erbyn gwrthwynebwyr anodd o’r Adran Gyntaf ond fydd yr un o’r timau hynny’n newydd i ni – rydyn ni’n eu herio nhw yn y T20 ac mae cystadleuaeth yr ail dîm yn rhanbarthol felly byddwn ni’n barod iawn ar gyfer yr hyn y byddwn ni’n ei wynebu.

“Mae gyda ni Wlad yr Haf i ddechrau ac mae honno’n gêm fawr i ni.

“Maen nhw’n un o’r timau cryfaf yn yr Adran Gyntaf felly mae’n ddechrau heriol ond mae’r cyfle i chwarae unrhyw fath o griced eleni’n wych.

“Er, ar hyn o bryd, na fydd ein haelodau na’n cefnogwyr yn gallu ein gwylio ni’n chwarae yng Ngerddi Sophia pan fyddwn ni’n chwarae dwy gêm fawr yn erbyn Swydd Gaerloyw a Swydd Warwick, byddan nhw’n gallu gwylio’r tîm trwy ein ffrwd byw.”

Y gemau’n llawn

Gwlad yr Haf v Morgannwg (Taunton, Awst 1)

Swydd Gaerwrangon v Morgannwg (Caerwrangon, Awst 8)

Morgannwg v Swydd Gaerloyw (Caerdydd, Awst 15)

Swydd Northampton v Morgannwg (Northampton, Awst 22)

Morgannwg v Swydd Warwick (Medi 6)