Bydd cyn-hyfforddwr Cymru, Mike Ruddock, yn aros gyda’r Gweilch am y tair blynedd nesaf ar ôl cytuno i gymryd rôl newydd gyda’r rhanbarth yn gyfarwyddwr datblygu.

Dychwelodd yr hyfforddwr, a enillodd y Gamp Lawn gyda Chymru yn 2005, i Abertawe fis Rhagfyr 2019 ar ôl iddyn nhw roi’r sac i’r Prif Hyfforddwr, Allan Clarke.

Ar ôl cwblhau adolygiad o berfformiad y rhanbarth, fe gafodd ei benodi’n gyfarwyddwr datblygu a chwarae rôl wrth benodi Toby Booth yn Brif Hyfforddwr newydd.

Roedd wedi bod yn hyfforddi yn Iwerddon gyda chlwb Lansdowne – a chyn hynny ond cafodd ei demtio yn ôl wrth i dymor y Gweilch fynd o ddrwg i waeth.

“Dwi’n hapus iawn i barhau i weithio â’r Gweilch a hoffwn ddiolch i bawb yn y rhanbarth am eu cefnogaeth yn ystod y chwe mis diwethaf,” meddai Mike Ruddock ar wefan y clwb.

“Pennod newydd”

“Mae hon yn bennod newydd i’r Gweilch. Mae gennym brif hyfforddwr gwych ac mae safon y tîm hyfforddi yn fy nghyffroi,” ychwanegodd Mike Ruddock.

“Mae gennym gyfleusterau hyfforddo newydd a charfan dalentog. Alla i ddim disgwyl i weld y tîm yn chwarae.”

Dywed rheolwr gyfarwyddwr y Gweilch, Andrew Millward bod “profiad, gwybodaeth a chysylltiadau Mike Ruddock wedi bod yn amhrisiadwy i’r Gweilch ar rwyf yn hapus iawn ei fod yn aros ymlaen gyda’r rhanbarth.”