Mae gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’i ragflaenydd “gwestiynau difrifol” i’w hateb wedi iddo ddod i’r amlwg bod y ddau wedi derbyn gan wleidydd a dyn busnes cefnog o Rwsia.

Dyna mae’r Aelod Seneddol, Liz Saville Roberts, wedi ei ddweud wrth ymateb i gofnodion Tŷ’r Cyffredin sy’n dangos bod Alun Cairns, a’i olynydd Simon Hart, wedi derbyn arian gan Alexander Temerko.

Mae’r gŵr o Rwsia yn gyn-weinidog amddiffyn ar y wlad honno, ac mae’n Gyfarwyddwr ar gwmni Aquind, sydd wedi rhoddi arian i’r Blaid Geidwadol.

Fe wnaeth Simon Hart dderbyn £9,000 gan y dyn busnes rhwng 2016 a llynedd, ac fe dderbyniodd £22,565 gan Aquind y llynedd.

Ym mis Mehefin y llynedd fe wnaeth Alun Cairns, ei ragflaenydd a gafodd y sac am fod ynghlwm â sgandal achos llys, hefyd dderbyn £5,000 gan Alexander Temerko trwy Aquind.

Cwestiynau i’w hateb

“Mae gan yr Aelodau Seneddol Ceidwadol yma gwestiynau difrifol i’w hateb,” meddai arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

“Maen nhw wedi derbyn miloedd gan gyn-weinidog amddiffyn Rwsiaidd a masnachwr arfau, ac mae’r gŵr yma wedi derbyn sylw mewn trafodaethau am ymyrraeth Rwsiaidd mewn etholiadau.

“Dyw hynna ddim yn edrych yn rhy dda. Beth oedd y biliynydd o Rwsia yn credu’r oedd yn ei brynu pan rhodd miloedd o bunnoedd i’r Aelodau Seneddol Ceidwadol yma? Dyna yw’r cwestiwn.”

Yr adroddiad

Yr wythnos hon cafodd adroddiad i ymyrraeth Rwsiaidd ei gyhoeddi, ac mae’n dweud bod yn rhaid i Lywodraeth San Steffan ymyrryd yn syth.

Mae cryn ddyfalu bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi oedi cyhoeddiad yr adroddiad yma yn fwriadol.