Fe wnaeth cyfraddau marwolaethau o ganlyniad i Covid-19 yng Nghymru ddisgyn o 19.3 ymhob 100,000 fis Mai i 5.4 ymhob 100,000 fis Mehefin.
Roedd y raddfa ar ei uchaf fis Ebrill – 43.3.
Fe ddaeth hyn i’r amlwg wrth i gyfanswm marwolaethau Cymru o’r coronafeirws aros ar 1,548 heddiw, ar ddiwrnod arall heb ragor o farwolaethau o’r haint yn y 24 awr ddiwethaf.
Wrecsam yw’r awdurdod lleol gyda’r gyfradd uchaf o farwolaethau’r mis ddiwethaf, gyda 15.0 i bob 100,000, a oedd i lawr o 23.5 ym Mai.
Yn y tri mis rhwng Mawrth a Mehefin, y gyfradd uchaf gafodd ei gofnodi oedd Caerdydd (132.5) yna Rhondda Cynon Taf (130.9) a Chasnewydd (119.9).
Y gymdogaeth lle mae’r nifer mwyaf o bobol wedi marw yng Nghymru yw Dwyrain Porth ac Ynys Hir yn Rhondda Cynon Taf, lle mae 29 o bobol wedi marw.