Mae angen “adeiladu” ar gonsensws ‘Miliwn o Siaradwyr 2050’ a “mynd ymhellach ac yn ddyfnach”, yn ôl Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

Ddydd Llun mi fydd y mudiad iaith yn lansio ‘Mwy na Miliwn’, sef dogfen sy’n cynnig eu gweledigaeth am etholiad Senedd 2021.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond yn y ddogfen mae’r Gymdeithas yn galw am ddyfnhau’r ymrwymiad hwnnw.

Mae’r mudiad am i’r Llywodraeth gyflwyno Deddf Addysg Gymraeg i Bawb, a chreu mil o ganolfannau uniaith Gymraeg newydd, ymhlith pethau eraill.

“Syniadau arloesol”

“Mae’n bryd adeiladu ar y consensws o gwmpas targed y miliwn o siaradwyr, a mynd ymhellach ac yn ddyfnach i wireddu dinasyddiaeth Gymraeg i bawb,” meddai.

“Mae’r syniadau arloesol yn y ddogfen wedi dod ar ôl misoedd o ymgynghori gydag arbenigwyr ac aelodau o’r cyhoedd o bob rhan o’r wlad.

“Y thema gyffredinol sy’n rhedeg drwy’r ddogfen yw’n gweledigaeth o Gymru gynhwysol a Chymraeg, lle mae gan bawb sy’n byw yma fynediad at yr iaith.

“A lle mae defnyddio’r iaith ym mhob cyd-destun yn rhywbeth cwbl normal i fwy a mwy o bobl.”

Lansiad

Mae’r mudiad hefyd am i’r Llywodraeth fuddsoddi £186 miliwn y flwyddyn mewn prosiectau i hyrwyddo’r Gymraeg; a sefydlu’r hawl i bawb, o bob oed, ddysgu Cymraeg yn rhad ac am ddim.

Bydd y lansiad yn digwydd yn fyw ar Zoom a Facebook Live, ac ymhlith y rheiny sy’n cymryd rhan mae Dr Elin Royles, Dr Osian Elias, Mabli Siriol, Joseph Gnagbo a Talulah Thomas.