Bydd pobol yr Alban yn cael cyfle i bleidleisio mewn refferendwm arall ar annibyniaeth, yn ôl arweinydd yr SNP yn San Steffan.

Mae Ian Blackford wedi rhybuddio Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Boris Johnson i beidio â “gwadu democratiaeth.”

Daw hyn ddiwrnod ar ôl i BorisJohnson ymweld â’r Alban, gan geisio pwysleisio cryfderau’r Undeb ac wfftio at alwadau am annibyniaeth.

Yn dilyn etholiad cyffredinol fis Rhagfyr, pryd enillodd yr SNP 48 sedd, gwrthododd y Prif Weinidog gais gan Nicola Sturgeon i gynnal refferendwm ar annibyniaeth.

Ond gyda rhai polau opiniwn yn awgrymu bod 54% o bobol yr Alban o blaid annibyniaeth, a bod yr SNP am ennill etholiad Holyrood blwyddyn nesaf, mae Boris Johnson o dan bwysau cynyddol.

“Beth rydym am ei weld yn etholiad y flwyddyn nesaf yw cefnogaeth gref i’r SNP ac annibyniaeth,” meddai Ian Blackford.

“Mae’n rhaid i Boris Johnson gydnabod y bleidlais yna, mae’n rhaid iddo gydnabod democratiaeth. Ni all ef wadu democratiaeth.

“Ni sydd am ennill y ddadl hon, byddwn yn cael refferendwm arall yn yr Alban.”