Mae disgwyl i Lywodraeth Prydain ddefnyddio mesurau brys i gadw troseddwyr honedig yn y ddalfa yng ngorsafoedd yr heddlu cyn bod modd dod o hyd i le iddyn nhw mewn carchardai.
Daw’r mesurau o ganlyniad i’r nifer fawr o bobol sydd wedi cael eu harestio am brotestio a chreu terfysgoedd yn ddiweddar.
Yn ôl Llywodraeth Lafur Prydain, mae arestio dros 1,100 o bobol mewn perthynas â thrais hiliol yn erbyn mewnfudwyr a Mwslimiaid wedi rhoi pwysau ychwanegol ar y system garchardai.
Eisoes, mae gwleidyddion dan bwysau i ryddhau carcharorion yn gynnar er mwyn lleddfu’r broblem.
Beth yw’r mesurau brys?
Yn ôl y mesurau brys, fydd y rhai sydd wedi’u hamau o drosedd ddim yn cael gorchymyn i fynd i’r llys hyd nes bod cell ar gael iddyn nhw yn un o garchardai’r Deyrnas Unedig.
Yn y cyfamser, byddan nhw’n cael eu cadw mewn cell yng ngorsaf yr heddlu.
Yn ôl James Timpson, y gweinidog carchardai, mae’r llywodraeth “wedi etifeddu system gyfiawnder sydd mewn argyfwng”, ac fe fu’n rhaid iddn nhw wneud “penderfyniadau anodd ond angenrheidiol” er mwyn ceisio datrys y sefyllfa.
Mae gan y Deyrnas Unedig y gyfradd uchaf o garcharorion yng ngorllewin Ewrop, ac mae niferoedd wedi codi’n sylweddol ers y pandemig Covid-19.
Mae hynny o ganlyniad i ddedfrydau llymach, oedi yn y llysoedd a’r gofyniad fod rhaid i’r troseddwyr gwaethaf dreulio o leiaf 65% o’u dedfryd dan glo.
Yn ôl cynlluniau gafodd eu cyhoeddi gan Syr Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, fis diwethaf, bydd y rhan fwyaf o garcharorion yn cael gwneud cais i adael y carchar ar ôl treulio 40% o’u dedfryd dan glo, yn hytrach na’r 50% presennol.
Fe fu galwadau gan Blaid Cymru ers tro i ddatganoli pwerau dros gyfiawnder i’r Senedd, ond dydy hynny ddim wedi digwydd hyd yn hyn.