Daeth ein cyfnod yn nodedig am ei bwyslais ar ryddid yr unigolyn i fynegi ei hun. Dyma – yn ôl pob tebyg, o leiaf – yw un o bennaf rinweddau ein diwylliant Gorllewinol. Dylai fod gan bawb ohonom yr hawl i wneud fel y mynnom, pryd bynnag a lle bynnag y mynnom. Tra bod yr hawl yn ddiogel, eilbeth yw pob hawl a gwirionedd arall.
O’r herwydd, caiff pob un o werthoedd cymdeithas eu gosod ar yr un gwastad. Mae dy wirionedd di, beth bynnag ydyw, yn gyfwerth a’m gwirionedd i, beth bynnag ydyw. Caiff Gwirionedd ei falu yn fan, daw’n ddim byd amgenach na mater rhyngof fi a’m cydwybod. Dim ond un gwirionedd sydd yn sefyll uwchlaw pob gwirionedd arall, sef y gwirionedd fod gan bawb yr hawl i dderbyn ac ymarfer unrhyw wirionedd mae e neu hi’n dymuno. Yn hyn o fyd, caiff goddefgarwch ei orseddu; sydd yn gwbl dderbyniol, hyd nes i ni faglu dros ryw bethau na ddylid – na ellid – eu goddef byth, pethau megis trais, fandaliaeth, hiliaeth a chreulondeb. Saif y pedwar hyn fel enghreifftiau o bethau cas tebyg.
Byd cymhleth eithriadol yw hwn; byd o hawliau teg, a gofynion cytbwys yn tynnu’r naill yn erbyn y llall. Yn anorfod, mae’r sawl sydd wedi ei drwytho yn y syniad fod ganddo’r hawl i fynegi ei hun, doed a ddelo, costied a gyst, yn fethiant llwyr fel dinesydd cyfrifol. Daeth yn amlwg ddigon o’r newyddion yn ddiweddar mai anwiredd yw ein gwirionedd, os oes yn rhaid i ni ei fynegi drwy fandaliaeth, dinistr a thrais.
Yma yng Nghymru, mae pobol yn cefnu ar yr union fath o gymdeithas all fagu’r dinasyddion sydd eu hangen ar ein gwlad a’n byd. Cymdeithas nad oes ei math yn unman arall – cymdeithas o gyd-addolwyr. Dyma’r fagwrfa orau i’r bersonoliaeth rydd, ond cyfrifol. Dyma lle mae modd meithrin yr union bethau hynny mae ar y byd eu hangen fwyaf heddiw – hunan-barch a pharch at eraill.