Mae llyfr yn cael ei baratoi o holl waith Margaret Jones sydd wedi marw yn 105 oed…

Bu farw Margaret Jones, un o brif arlunwyr storïau’r Mabinogi a’r chwedlau Celtaidd, yn 105 oed.

Yn ystod gyrfa a oedd yn ymestyn dros 30 mlynedd, daeth â chwedlau’r Mabinogi yn fyw i’r Cymry drwy gyfrwng ei darluniau cain a dychmygus a gafodd eu cyhoeddi mewn llyfrau, a’u troi yn bosteri a phrintiau.