Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen

Chwedl Eddie Izzard: ‘some people are very widely read, I’m thinly read.’ Er mai darllenwr ‘cabinet erchwyn y gwely’ ydw i, ac ar wyliau, mae yna lyfrau sydd wedi creu argraff. Ar y cabinet ar hyn o bryd mae Naw Mis gan Caryl Lewis. Mi wnes i fwynhau Drift ganddi gymaint, ro’n i eisiau neidio i mewn i’w gwaith Cymraeg.

Y llyfr a newidiodd fy mywyd