Mae menywod Cymreig crochenydd o Gwm Tawe wedi bod yn hedfan oddi ar yr odyn ers y cyfnod clo.
Ers rhannu ei gwaith ar dudalen Facebook yr Eisteddfod Genedlaethol pan fu’n rhaid gohirio’r brifwyl yn sgil Covid yn 2020, mae addurniadau clai Siwan Thomas wedi bod yn boblogaidd.
Rhoddodd y gorau i’w swydd rhan amser gyda chynllun trochi iaith Croesi’r Bont y Mudiad Meithrin yn ystod y pandemig, er mwyn rhedeg cwmni Crochenwaith Llwyndu yn llawn amser.