Mae Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg Cymru, wedi bod yn cyfarfod â staff a phobol ifanc yn Siop INFO a Chanolfan Pobol Ifanc Victoria yn Wrecsam, er mwyn deall sut mae eu gwasanaethau amrywiol yn gymorth i bobol ifanc yn yr ardal.

Mae’r gwasanaethau gwaith ieuenctid yn amrywiol, ac maen nhw’n cynnwys cymorth wyneb yn wyneb, atal digartrefedd, gwasanaethau cyffuriau ac alcohol.

Dywed Lynne Neagle ei bod yn “ysbrydoliaeth gweld faint o effaith mae’r prosiectau gwaith ieuenctid hyn yn ei chael ar fywydau pobol ifanc yma yn Wrecsam”.

“Dw i eisiau i Gymru fod yn fan lle mae pob plentyn a pherson ifanc yn gwybod ble i fynd am gymorth, ac yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi,” meddai.

Amrywiol brosiectau

Un o’r prosiectau hynny yw ‘Inspire, Gwaith Ieuenctid yn yr Ysbyty’ yng Nghanolfan Pobol Ifanc Victoria, sy’n gymorth i bobol ifanc sy’n hunan-niweidio.

Ers 2019, fe fu cynnydd o 278% mewn atgyfeiriadau’n ymwneud â hunan-niweidio yn Inspire.

Wrth i bobol ifanc feithrin sgiliau ymdopi, gwella lles emosiynol a lleihau ynysu, mae’r prosiect yn gymorth i leihau achosion o hunan-niweidio all arwain at unigolion yn cael eu derbyn i’r ysbyty.

Gwasanaeth arall sydd ar gael yw Siop INFO, sy’n darparu gwybodaeth am amrywiol bynciau i bobol ifanc.

Llynedd, fe wnaethon nhw ymdrin â thros 10,000 o ymholiadau gan bobol ifanc – yn amrywio o gyngor iechyd meddwl i geisiadau am wybodaeth ynghylch iechyd rhyw.

Ochr yn ochr â chyngor ac arweiniad cyffredinol ar unrhyw faterion iechyd a lles, maen nhw’n rhoi cymorth wyneb yn wyneb i bobol ifanc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref neu sy’n defnyddio cyffuriau ac alcohol.

‘Gwasanaethau hygyrch’

Mae modd i bobol ifanc yr ardal ddod o hyd i gymorth a gwybodaeth am weithgareddau, gwasanaethau a chyfleoedd drwy wefan ryngweithiol Wrecsam Ifanc.

Gall gwasanaethau gwaith ieuenctid fel y ddwy ganolfan yn Wrecsam fod yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth a chymorth yn ystod cyfnod heriol, ar adegau pan fydd bobol ifanc yn ystyried eu hopsiynau ar ôl cael canlyniadau arholiadau neu’n cwblhau cymwysterau.

Dywed Donna Dickenson, Pennaeth Gwasanaethau Atal a Chymorth Cyngor Wrecsam, mai eu “blaenoriaeth yw sicrhau bod ein gwasanaethau’n hygyrch i bob person ifanc, yn enwedig pan fydd eu hangen fwyaf arnyn nhw”.

“Mae lleoli timau gyda’i gilydd yn y Vic a Siop INFO, yn golygu y gall pobol ifanc gael gafael ar wybodaeth, cyngor ac arweiniad mewn da bryd, ac ar yr un pryd fwynhau mannau diogel i gymdeithasu â phobol ifanc eraill.

“Rydym yn falch iawn o’r Gwasanaethau Ieuenctid yn Wrecsam, sy’n cael eu darparu gan y Cyngor a’r Sector Gwirfoddol a lle rydym i gyd yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod y cynnig i bobol ifanc yn eang ac yn amrywiol ar draws y Fwrdeistref Sirol.”