Mae Plaid Cymru’n ffyddiog y gallan nhw ennill “cadarnleoedd” Llafur ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ar ôl colli is-etholiad diweddar o un bleidlais.

Dywed arweinydd Plaid Cymru yn y Cyngor ei fod yn credu bod y canlyniad yn arwydd cadarnhaol y gallan nhw herio’r Blaid Lafur ledled yr awdurdod lleol yn etholiadau lleol 2027.

Dim ond un bleidlais oedd yn gwahanu’r Llafurwr Christine Bissex-Foster a Joshua McCarthy, ymgeisydd Plaid Cymru, yn is-etholiad ward Aberbargod a Bargod ar Awst 15.

Daeth Mark Thomas, ymgeisydd y Blaid Werdd, yn drydydd.

‘Ysgwyd Llafur’

Ar ôl colli o drwch blewyn, mae Plaid Cymru’n optimistaidd y gallan nhw gynnig her wirioneddol i’r Blaid Lafur yn etholiadau nesa’r Cyngor ymhen tair blynedd.

Fe wnaeth y Cynghorydd Lindsay Whittle, sy’n arwain Grŵp Plaid Cymru yn y Cyngor, groesawu’r canlyniad gorau i’r blaid yn yr ardal ers 25 mlynedd.

“Er gwaetha’r siom o golli gan un bleidlais, roedd hon yn ymgyrch arbennig gan Joshua yn ei etholiad cyntaf, ac yntau ond yn 23 oed,” meddai.

“Fe wnaeth ei berfformiad ysgwyd Llafur.

“Bydd Llafur yn amlwg yn poeni’n arw bod Plaid Cymru wedi rhoi ras mor agos iddyn nhw mewn sedd sydd wedi bod yn gadarnle iddyn nhw ers ennill tair sedd Bargod yn ôl yn 2004.

“Roedd hon yn sedd gwbl gadarn i Lafur, ond dyw hi ddim bellach.”

‘Teimlad o wrth-wleidyddiaeth’

Gyda golwg ar 2027, o bosib, mae un o gynghorwyr Llafur yn dweud y bydd ei blaid yn canolbwyntio ar ymgysylltu â phleidleiswyr ar stepen y drws a datrys problemau lleol.

Fe wnaeth y Cynghorydd Jamie Pritchard, sy’n ddirprwy arweinydd ar yr awdurdod lleol, ganmol llwyddiant Llafur a dweud y bydd y Cynghorydd Bissex-Foster yn “gweithio’n galed dros drigolion Aberbargod a Bargod”.

Dim ond 774 o bobol oedd wedi pleidleisio yn yr is-etholiad, oedd yn golygu mai “nifer isel iawn” wnaeth bleidleisio.

Dywed y Cynghorydd Pritchard nad yw hi’n bosib i Lafur “anwybyddu’r” ffaith fod nifer o bobol heb ymgysylltu â’r broses etholiadol.

Mae unrhyw apathi gwleidyddol yn broblem mae’n rhaid i bob plaid frwydro â hi, meddai.

“Mae yna deimlad o wrth-wleidyddiaeth cyffredinol ledled y wlad, a bydd rhaid i bob ymgeisydd wynebu hynny.

“Wrth symud ymlaen, ein swydd ni yw bod allan ar stepen y drws yn rheolaidd er mwyn cael sgyrsiau heriol â thrigolion a delio â phroblemau pobol hyd orau ein gallu.”

Canlyniadau llawn is-etholiad Aberbargod a Bargod:

Christine Bissex-Foster (Llafur Cymru): 354 pleidlais

Joshua Declan McCarthy (Plaid Cymru): 353 pleidlais

Mark Thomas (Y Blaid Werdd): 59 pleidlais

Cafodd wyth papur pleidleisio eu difetha hefyd.