Dywed Maer croenddu cyntaf Caerdydd ei fod wrth ei fodd cerflun “masnachwr caethweision creulon” yn cael ei dynnu o Neuadd y Ddinas Caerdydd.
Cafodd y cerflun o Syr Thomas Picton ei orchuddio â byrddau pren y bore yma ychydig oriau ar ôl i gynghorwyr y ddinas bleidleisio trwy fwyafrif llethol i gael gwared arno.
“Dw i wrth fy modd,” meddai Dan De’Ath. “Mae Caerdydd wedi gwneud y peth iawn drwy ddefnyddio democratiaeth i’w gymryd lawr.
“Mae’r rhan fwyaf o bobol wedi bod yn hynod gefnogol. Maen nhw’n cydnabod arwyddocâd y cerflun a pha mor amharchus ydyw i bobol dduon. Mae bywydau duon o bwys.
“Dyw hi felly ddim yn addas i ddathlu a chlodfori dyn fel Thomas Picton, wnaeth achosi gymaint o ddioddefaint a marwolaeth yn ei amser fel llywodraethwr Trinidad.”