Bydd cerflun o Syr Thomas Picton yn cael ei dynnu o Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd.

Daw yn dilyn pleidlais gan gynghorwyr Caerdydd nos Iau (Gorffennaf 23).

Roedd Picton yn cael ei gofio fel y swyddog mwyaf blaenllaw i farw ym mrwydr Waterloo.

Roedd rheolaeth Thomas Picton o ynys Trinidad yn awdurdodaidd a chiaidd, ac arweiniodd hyn at achos yn ei erbyn yn 1806 yn ei gyhuddo o arteithio Louisa Calderon.

Cyfaddefodd Thomas Picton iddo ei harteithio, a chafwyd e’n euog gan reithgor yn Lloegr.

Pleidleisiodd 57 cynghorydd o blaid cael gwared â’r cerflun, gyda phump yn erbyn a naw yn atal eu pleidlais.

Bydd y cerflun yn cael ei orchuddio tra bod y cyngor yn ceisio cael caniatâd gan Lywodraeth Cymru a Cadw i’w dynnu o’r adeilad.

Fe ddaeth y galwadau i dynnu’r cerflun wedi i brotestwyr Black Lives Matter dynnu cerflun o Edward Colston ym Mryste.