Mae cyflogwyr yn fwy hyderus ynghylch cyflogi staff a buddsoddi yn eu busnes, er bod hyder yn yr economi ehangach yn dal i fod yn wan, yn ôl adroddiad newydd.

Dywed y Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth (REC) bod gallu busnesau i gyflogi staff a buddsoddi yn gwella am y tro cyntaf ers mis Chwefror, wrth i gyfyngiadau’r coronaferiws gael eu llacio.

Fodd bynnag, mae cyflogwyr yn ansicr ynglyn â sefyllfa’r economi, ac mae nifer fawr bellach yn ailstrwythuro wrth ymateb i bandemig y coronafeirws, meddai’r adroddiad.

Mae un o bob chwe cyflogwr wedi gorfod diswyddo aelod o staff hyd yma eleni, sydd 9% yn uwch na llynedd.

“Mae’n dda gweld hyder cyflogwyr ar ei fyny wrth i gyfyngiadau’r gwarchae gael eu llacio,” meddai Prif Weithredwr Cydffederasiwn Recriwtio a Chyflogaeth, Neil Carberry.

“Ond mae busnesau yn dal i boeni am yr economi, ac er bod rhai yn cyflogi, mae nifer yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd a diswyddo pobol.”

Dywedodd Gweinidog Cyflogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Mims Davies: “Rydym yn gwybod bod y rhain yn amseroedd caled, ond bydd neb yn cael eu gadael heb obaith ac mae ein pecyn cefnogaeth £30 biliwn yn helpu i adfer yr economi.”