Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi y bydd y gweinyddiaethau datganoledig yn cael o leiaf £3.7 biliwn o arian ychwanegol eleni i frwydro’r coronafeirws.
Gwnaeth Stephen Barclay, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, y cyhoeddiad cyn ymweliad â Chaeredin.
Dywedodd y byddai £1.2 biliwn ar gyfer Cymru, £1.9 biliwn ar gyfer yr Alban, a £0.6 biliwn ar gyfer Gogledd Iwerddon i helpu gyda chynllunio’r ymateb i’r coronafirus at y dyfodol.
Dywedodd y Trysorlys fod y cyllid yn mynd â’r cyfanswm sydd wedi’i roi i’r gweinyddiaethau datganoledig i o leiaf £12.7 biliwn ar gyfer 2020/21 i gefnogi gwaith adfer o’r coronafeirus.
Wrth siarad cyn ei ymweliad â, dywedodd Mr Barclay: “Ar ddechrau pandemig y coronafeirws, dywedon ni y bydden ni yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r Deyrnas Unedig gyfan, boed hynny’n arbed swyddi neu’n sicrhau bod gan ein GIG hanfodol yr offer sydd ei angen arno.
“A dyna’n union rydyn ni wedi’i wneud.
“Heddiw, rydyn ni’n mynd un cam ymhellach drwy roi i’r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon y sicrwydd ychwanegol sydd ei angen ar gyfer eu cynlluniau cymorth dros y misoedd nesaf.
“Dyma arwydd arall eto o’n cefnogaeth i’r undeb a’n hymrwymiad i sicrhau adferiad economaidd i’r Deyrnas Unedig gyfan.”
“Anodd a siomedig”
Ond wrth siarad ar BBC Radio Wales Breakfast, roedd Vaughan Gething, Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, yn amheus a yw’r holl gyllid yn arian newydd. Dywedodd:
“Y ffordd y cafodd ei adrodd ar BBC News ar-lein neithiwr Roedd yn arian ychwanegol ar ben Barnett – ond dydyn ni ddim yn meddwl mai dyna’r achos o gwbl.
“Dyma un o’r pethau siomedig ac anodd sy’n ddiangen: caiff cyhoeddiadau eu gwneud gyda phenawdau mawr sy’n cael lot o sylw… mae disgwyliadau’n cael eu gosod arnon ni – a’r gwir yn aml yw nad yw’n arian newydd.
Cyfeiriodd Mr Gething at yr arian a gyhoeddwyd yn natganiad haf y Canghellor Rishi Sunak:
“£500m o ddatganiad yr haf er enghraifft – mewn gwirionedd roedd £12.5m yn arian newydd, roedd y gweddill yn ail-gyhoeddiad o arian oedd eisoes ar ei ffordd.
“Yn y cyhoeddiad hwn rydyn ni’n credu bod o leiaf rywfaint ohono yn arian sydd eisoes ar ei ffordd – ac mae’n rhaid iddo fod, fel arian canlyniadol Barnett yn deillio o ddatganiadau a wnaed eisoes.”
“Mae’n anodd ac yn siomedig achos hoffen ni i’r cyhoedd gael neges glir heb glywed gwleidyddion Llywodraeth Cymru yn anghytuno gyda gwleidyddion Llywodraeth y Deyrnas Unedig am gyflwr yr arian a ddarperir, a faint ohono sy’n arian newydd – ond, fel yr arfer, wnawn ni ddim dysgu faint sy’n arian newydd am rai dyddiau.”