Mae disgwyl i Humza Yousaf, Prif Weinidog yr Alban, ymddiswyddo ar ôl i gytundeb ei Lywodraeth SNP â’r Blaid Werdd gael ei derfynu.

Roedd Cytundeb Bute yn gytundeb rhwng y ddwy blaid i rannu grym, ond fe ddaeth i ben ddydd Iau ar ôl i’r Blaid Werdd gyhuddo’r SNP o gefnu ar faterion amgylcheddol, gan gynnwys targedau’n ymwneud â’r hinsawdd erbyn 2030.

Mae’r Blaid Werdd wedi ei gyhuddo hefyd o droi cefn ar genedlaethau’r dyfodol.

Ar hyn o bryd, mae’n debygol nad oes gan Humza Yousaf ddigon o gefnogaeth i barhau i arwain llywodraeth leiafrifol.

Mae gan yr SNP 63 aelod yn y senedd allan o 129, felly bydd yn rhaid i’r SNP ddibynnu ar gefnogaeth Ash Regan, yr unig aelod o blaid Alba yn y senedd.

Ond mae Humza Yousaf eisoes wedi wfftio’r posibilrwydd o gydweithio â’r blaid gafodd ei sefydlu gan Alex Salmond, cyn-arweinydd yr SNP a chyn-Brif Weinidog yr Alban.

Mae disgwyl iddo fe wynebu dwy bleidlais hyder yr wythnos hon, sef un yn ei erbyn e fel arweinydd a’r llall yn erbyn ei blaid fel llywodraeth.

Gallai pleidlais o ddiffyg hyder arwain at ei ymddiswyddiad, ond does dim gorfodaeth arno fe i gamu o’r neilltu pe bai’n colli, ond pe bai’r llywodraeth yn colli’r bleidlais byddai’n rhaid iddyn nhw bleidleisio dros arweinydd newydd o fewn 28 diwrnod.

Pe na baen nhw’n gwneud hynny, byddai etholiad yn cael ei alw.